BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 24 Awst 2008
Dyddiadur Rhodri o Beijing
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Rhodri Llywelyn gyda'i argraffiadau o'r Gemau Olympaidd.

Y Gemau yn dirwyn i ben
24 Awst 2008

Am beth fydd Gemau Olympaidd Beijing yn cael eu cofio?

Rwy'n amau mai'r cof am Usain Bolt a Michael Phelps fydd yn goroesi traul amser.

Medalau aur niferus a recordiau byd anhygoel gan wibiwr a nofiwr gorau'r byd yw straeon mwya'r gemau, er fod CCTV, y darlledwyr swyddogol yma'n China, yn fwy tebygol o ddangos uchafbwyntiau medal efydd i gleddyfwr o Guangdong na gorchestion yr athletwr o Jamaica a seren nofio'r Unol Daleithiau.

O safbwynt tîm Prydain, mae'r rhain yn cael eu disgrifio fel y gemau mwyaf llwyddiannus ers Llundain 1908 pan gipiwyd 56 o fedalau aur.

Usain Bolt

Ond o ystyried i rhai o'r medalau aur rheiny cael eu hennill mewn campau fel raquets, polo a tynnu rhaff, mae'n bosib dadlau mai dyma YW'R gemau mwyaf llwyddiannus erioed i Brydain.

Deuddeg o athletwyr oedd gan Gymru'n cystadlu. Nifer siomedig o isel medd rhai.

Ond mae'r ffaith i 5 o fedalau (3 aur, 2 arian) gael eu hennill yn golygu mai dyma'r gemau mwyaf ffrwythlon ers Antwerp 1920.

Mae'r 'gynnau mawr' wedi tanio - Nicole Cooke, Tom James, Tom Lucy, Geraint Thomas a David Davies, tra fod Christian Malcolm a Jemma Lowe wedi cyrraedd rowndiau terfynol.

25 oedd oedran yr hynaf o'r 'medalwyr', sy'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.

'Where have all the questions gone?' oedd testun un erthygl ym mhapur newydd yr Independent yr wythnos hon mae'n debyg.

Ac ers y diwrnodau cyn y Seremoni Agoriadol pan oedd newyddiadurwyr yn cyrraedd Beijing yn awyddus i ddod o hyd i stori, prin iawn yw'r son wedi bod am Tibet, 'smog' a hawliau dynol.

Chwaraeon sydd wedi cael blaenoriaeth.

Ond mae'r drafodaeth ynglŷn â pharodrwydd China i wireddu'r addewidion a wnaed pan wobrwywyd y gemau i Beijing 'nol yn 2001 yn sicr o ddychwelyd.

Mae'r awenau'n cael eu trosglwyddo at Lundain felly. Ond cyn 2012, mae'r Gemau Paralaympaidd i ddod.

Ac ar brawf y gorffennol, gall hynny olygu dim ond un peth. Hyd yn oed mwy o fedalau i Gymru.


Gemau euraidd i'r Cymry
19 Awst 2008

Wedi aros 36 o flynyddoedd am fedal aur, mae Cymru wedi cynilo 3 mewn 9 diwrnod.

Fel achlysur, rwy'n dal i feddwl mai buddugoliaeth Nicole Cook oedd yr orau. Mae'n teimlo fel oes yn ôl erbyn hyn.

Roedd y tywydd mor ofnadwy, y lleoliad yn anhygoel, a'r ffaith ei bod yn cystadlu ar ei phen ei hun yn gwneud camp y Gymraes ronyn bach yn fwy arwyddocaol.

Wedi dweud hynny, roedd bod ger llyn rhwyfo Shunyi b'nawn Sadwrn yn wefreiddiol. Tom James a'i griw oedd y ffefrynau clir i ennill.

Tom James

Nid fi oedd yn dweud hynny, ond Steve Redgrave, enillydd 5 o fedalau aur Olympaidd.

Ac o ystyried hanes a thraddodiad y cwch 4 dyn heb lywiwr, roedd y disgwyliadau'n arallfydol.

Rhyddhad oedd emosiwn amlwg y rhwyfwyr wrth groesi'r llinell. A'r peth cynta' ar feddwl Tom oedd dianc rhag pawb a phopeth i'w fwthyn ym Metws y Coed!

Draw i'r Veledrome ddeuddydd yn ddiweddarach, lle roedd y gobeithion yn uwch fyth.

Mae tim y ras gwrso wedi bod yn Bencampwyr Byd ers dwy flynedd.

Roedden nhw newydd chwalu record y byd ddiwrnod ynghynt. Ond pan nad oedd hi'n ymddangos fod modd mynd yn gynt, dyna'n union wnaeth Geraint Thomas o Gaerdydd a'i gyd-seiclwyr yn y rownd derfynol.

Geraint Thomas a'i gyd-seiclwyr

Record byd arall, a medal aur arall.

Mae stori seiclo Prydain yn un hynod. A Chymru sy'n gyfrifol am y llwyddiant aruthrol yn Beijing.

Dave Brailsford yw Cyfarwyddwr Perfformiad y tim. Mae'n siarad Cymraeg ar ôl byw yn y gogledd am gyfnod.

Er o Awstralia'n wreiddiol, mae'r Prif Hyfforddwr, Shane Sutton yn ystyried ei hun yn Gymro wedi byw yng Nghaerdydd ers 16 o flynyddoedd.

O Gasnewydd y daw Martin Ashfield a Tony Carpenter - dau o'r criw technegol. Mae Doug Daley, y gweinyddwr yn dod o Ruthun, tra fod yr hyfforddwr Julian Winn o'r Feni.

Ystyriwch hefyd fod y tim wedi bod yn hyfforddi yn Veledrome Casnewydd cyn teithio i China, ac mae'r dylanwad Cymreig yn amlwg.


3 medal aur i Gymru a'i peidio (heb anghofio medal arian Tom Lucy), ond y stori fawr yn Beijing yw methiant Liu Xiang i amddiffyn ei goron Olympaidd yn y ras 110 metr dros y clwydi.

Roedd lluniau teledu yn ei ddangos yn cicio'r wal cyn troedio'r trac. Roedd y boen yn amlwg wrth iddo dwymo lan.

A'r peth nesaf, roedd gobaith mawr China am fedal aur athletau yn gadael Y Nyth. Heblaw falle am Yao Ming, y seren pêl-fasged, Liu Xiang yw campwr enwoca'r wlad. Ma'i lun ymhobman, ac mae'r siom i'w theimlo.


Tydw i ddim yn edrych am gydymdeimlad. Ond mae bod yn Beijing, tra'n gweithio i amserau Cymru, yn gallu golygu oriau hir.

Diolch byth, serch hynny, i ni orfod aros yn y Stadiwm Genedlaethol tan yr oriau man ar ôl rownd derfynol y 100 metr i ddynion.

Roedd y swyddogion diogelwch wedi troi eu cefnau, a'r giat rhwng yr eisteddle a'r trac ar agor.

Doedd dim angen ail gynnig. Fel Usain Bolt o'r 'blocks', bant a ni i gymeryd lluniau yn lôn rhif 4, lle ychydig oriau ynghynt, fe dorrodd y Pencampwr Olympaidd record y byd.

Paratowch i gael eich syrffedu gan luniau pan fydda'i gartre!


UDA yn paratoi i daro nôl
15 Awst 2008

Mae dros 200 o wledydd yn cael eu cynrychioli yma. Llwyddiant China yw'r unig stori yn y wasg serch hynny. Gan fod yr athletau bellach wedi dechrau, diddorol fydd gweld ymateb y papurau newydd a'r newyddion teledu wrth i'r Unol Daleithiau'n daro nôl yn y frwydr fawr i orffen ar frig y tabl medalau.


Seddi gwag yn creu rhwystredigaeth
14 Awst 2008

Clod sydd i'r Gemau yn y parthau yma ar y cyfan. Ond mae yna rywfaint o feirniadaeth o'r ffaith mai hanner llawn yw nifer o'r eisteddleoedd.

Yn sicr mi roedd seddi gwag yn y codi pwysau pan fues i yno'r wythnos diwethaf. Ac yn anhygoel, yr un oedd y sefyllfa un bore ar gyfer rowndiau terfynol yn y pwll nofio.

Ond dyw seddi gwag ddim yn golygu fod yna docynnau i'w cael. Mae'r sefyllfa'n gwneud nifer o bobl sydd am wylio'r cystadlu i deimlo'n rhwystredig iawn.

Gwag hefyd yw'r Parc Olympaidd. Mae'n safle enfawr. Lleoliad Y Nyth, Y Ciwb Dwr, y cystadlaethau cleddyfaeth a gymnasteg ymhlith eraill. Mae siopau a mannau bwyta'n britho'r lle, a charnifal dyddiol yn cael ei gynnal.

Ond does dim modd crwydro heb docyn. Roedd ardal debyg yn Athen yn fan cyfarfod i bawb oedd am brofi'r wefr Olympaidd. Ond yma yn Beijing, oherwydd rheolau diogelwch llym, y lleiafrif yn unig all ei mwynhau.


Cymry yn cynnal Y Nyth
12 Awst 2008Y Nyth

Mae yna ddywediad sy'n sôn am wneud eich lwc eich hun mewn chwaraeon. Wel mae'n berthnasol o dro i dro wrth newyddiadura hefyd.

Mynd i wneud cyfweliad gyda dau Gymro sy'n byw yn Beijing wnes i. Ond wrth ddechrau siarad gyda David 'Dai' Hand a Rhys Whalley, mi ddaeth hi i'r amlwg eu bod yn gweithio i'r cwmni sy'n gyfrifol am gynnal a chadw Stadiwm Genedlaethol newydd China - Y Nyth.

Nid David Davies, Geraint Thomas a Tom James yw'r unig rhai dan bwysau yn ystod y gemau. Os nad oes trydan, dwr a system awyru effeithiol yn y stadiwm...Cymru gaiff y bai!


Nicole yn troi'r gornel
10 Awst 2008

Doedd dim gan Nicole Cooke i'w golli. Mi fyddai medal aur am ei gwddf wrth ddychwelyd i Gymru beth bynnag ddigwyddodd ar ei hail ymweliad â Juyongguan (lleoliad y rasys beics ar y ffordd).

Nicole Cook yn dathlu

Roedd ei buddugoliaeth fythgofiadwy ar y pnawn Sul blaenorol yn anhygoel. Fe dreuliais i fwyafrif o'r diwrnod yn ceisio gweld y 'Great Wall' drwy'r niwl a'r glaw.

Wedi gwres llethol y dyddiau cynt, trodd y tywydd. Y gred gyffredinol oedd bod hynny o fantais i Nicole.

A chyda phob adroddiad oedd yn ein cyrraedd ger y llinell derfyn, roedd y gobeithion yn cynyddu. Ma' Nicole yn ddiogel yn y peleton...mae Nicole wedi osgoi'r ddamwain...mae Nicole yn y grŵp o bump sydd wedi torri'n glir.

Ac yna, dair awr a hanner ers dechrau'r ras yng nghanol Beijing, dyma grys glas a gwyn y Gymraes yn ymddangos.

"Dw i'n methu troi corneli" meddai hi mewn cyfweliad eiliadau'n unig ar ôl diwedd y ras.

Dim ond yn hwyrach y sylweddolais i faint o waith oedd gan y Gymraes i'w wneud ar y tile ola'. Ar ôl arafu i droi, roedd hi yng nghefn y grŵp wrth ddechrau dringo. Ond mae'n un o wibwyr gorau a chryfa'r byd. A dyna enillodd y dydd iddi.

Wedi dweud hynny, fe gyfrannodd ei chyd-reidwyr, Emma Pooley a Sharon Laws. Y cynllun, mae'n debyg oedd ceisio sicrhau fod Nicole o fewn cyrraedd dros y cilometrau olaf.

Ac wedi iddi wneud y gwaith caib a rhaw yn y ras ar y ffordd, roedd buddugoliaeth Pooley yn y ras yn erbyn y cloc dridiau'n ddiweddarach yn gwbwl haeddiannol.

Gorffen yn 15fed wnaeth Nicole. Mae'n amlwg iddi chwythu ei phlwc yn ennill aur. Ond fel y dwedais i, doedd ganddi ddim i'w golli.


Y Seremoni Agoriadol
09 Awst 2008

Mae'n siŵr fod yr Arglwydd Coe yn pendroni.

Sut yn y byd mae gwella ar Seremoni Agoriadol Beijing 2008? Dyw cost honno ddim yn hysbys.

Y Seremoni Agoriadol

Ond yn ôl y sibrydion sydd i'w clywed yma yn China, mae'r gemau cyfan am gostio 10 gwaith cymaint â'r nesaf yn Llundain - £9 biliwn o bunnoedd yw'r amcangyfrif ar gyfer y rheiny.

Yn y wlad wnaeth eu dyfeisio yn ôl pob son, doedd dim syndod gweld tân gwyllt toreithiog yn ystod y seremoni. Ac nid yn Stadiwm y Nyth yn unig.

Roedd hwn yn ddathliad oedd yn ymestyn o Sgwâr Tiannamen yng nghanol y ddinas, i'r wal hynafol ac enwog i'r gogledd.

Fe barodd y cyfan ryw 4 awr. Roedd gorymdaith yr athletwyr yn ddwy awr o hyd (dim syndod falle gyda thros 200 o wledydd i'w gwasgu i'r stadiwm).

A dyw hi ddim yn ymddangos fod modd cyflymu pethau. Roedd ambell un yn agos at wywo 'mond wrth gerdded!

Gyda mwyafrif yr 11,000 o gystadleuwyr yn bresennol, anodd oedd gweld wynebau.

Ond mi lwyddais i gael cip ar Bencampwr Wimbledon, Rafael Nadal. Het wellt ar ei ben, siwt goch, a sgidie i gyd-fynd... a dal yn edrych yn 'cool'.

Gadael y Parc Olympaidd oedd yr unig drafferth. Wedi wythnos o bopeth yn rhedeg fel 'watch', dyma'r rheswm cyntaf (bron) dros feirniadu'r trefnwyr.

Roedd hi fel diwrnod gwael ar yr A470 ger cyffordd Coryton yn yr orsaf fysiau. Dim yn symud.

Dim ond y gyrwyr oedd yn colli tymer serch hynny. Edrych 'mlaen oedd y mwyafrif at gael gweld y cystadlu'n dechrau drannoeth.

Mae'r fath beth yn bodoli a 'Swigen Olympaidd'...a braf ynghynt yn yr wythnos oedd cael dianc!

Wedi byw a bod yn adeiladau ac ardaloedd swyddogol y gemau ers cyrraedd fe aeth un o Gymry Beijing a chriw BBC Cymru ar grwydr i Sgwâr Tiannamen.

Ac mae'r ymweliad wedi fy argyhoeddi fod pobl gyffredin China wir yn croesawu... hyd yn oed yn anwesu'r gemau.

Dan y llun enwog o Mao, ac ar drothwy Neuadd Fawr y Bobl, roedd torf enfawr wedi ymgynnull i wylio'r cloc Olympaidd yn dynesu at 00:00:00.

Roedd y gemau i ddechrau am wyth yr hwyr ar yr wythfed diwrnod o'r wythfed mis, 2008.

Ydy, mae wyth yn ffigwr lwcus yma, sy'n addo cyfoeth a ffyniant.

Dyna'r rheswm pam i ddegau o filoedd o gyplau Beijing fynd ati i gofrestru eu priodasau ar y diwrnod arbennig.

MarK Foster yn arwain tîm Prydain Seremoni Agoriadol

Ymlaen wedyn i'r Den Bar - cartre' un o glybiau rygbi'r ddinas, a lloches i gystadleuwyr a dilynwyr tîm Denmarc dros yr wythnosau nesaf.

Roedd tabl medalau enfawr ar y wal yn barod i'w lenwi... ond heb golofn i Brydain.

Bydd cenedlaetholwyr a chefnogwyr datganoli yn falch o glywed i bob un o'r gwledydd cartre' gael eu rhestri'n unigol.

Gobeithio na fydd gwagle gyferbyn ac enw Cymru ar ddiwedd y mis.

Mae David Davies ymhlith y ffefrynnau i lwyddo.

Ac eisoes mae'r nofiwr o'r Barri wedi creu argraff yma.

Gofyn ambell gwestiwn Cymraeg wnes i yng nghynhadledd newyddion tîm nofio Prydain, a Dai Splash yn ateb yn iaith y nefoedd (er mawr syndod i wasg y byd oedd wedi ymgynnull).

Daeth un o swyddogion tîm Prydain i gael sgwrs yn ddiweddarach.

Wedi mynychu'r Gemau Olympaidd 9 o weithiau... dyna'r tro cyntaf iddo glywed y Gymraeg yn cael ei siarad. Perfformiad gan y Cymro sy'n siŵr o haeddu'r wisg wen!

Mae Beijing yn parhau'n chwilboeth a ry' ni'n dal i chwysu.

Mae hynny wedi gorfodi un aelod o'r tîm (sydd ddim i'w enwi) i ail-feddwl am ei ddewis o ddillad isaf.

Braidd yn anghyfforddus yw 'boxer shorts' mewn tymheredd fel hyn meddai... falle byddai 'y-fronts' yn well.

Rhaid mynd... mae'r heddlu ffasiwn are eu ffordd!

  • Bydd Rhodri Llywelyn yn adrodd o'r Gemau ar gyfer Radio Cymru a Newyddion BBC Cymru ar S4C.


    Cyrraedd Beijing
    05 Awst 2008

    SLAP! Roedd y gwres yn ddigon i fwrw dyn i'r llawr. Fel tasai Steve Redgrave newydd fy nharo a chledr ei law.

    11 bore dydd Llun oedd yr amser pan gamais mas o Faes Awyr ysblennydd Beijing, sy'n enghraifft o'r hyn y dylai Terfynfa 5 Heathrow fod yn ôl un o'r cyd-deithwyr ar BA039!

    'Y Nyth'

    Roedd rhybuddion di-ri wedi bod am awdurdodau llaw drwm China oedd yn debygol o archwilio pob camera, batri a gwifren hyd syrffed wrth i ni gyrraedd y wlad.

    Ond gaetho ni ddim ein tynnu i'r naill ochr unwaith... yn wahanol iawn i'r cyd weithwyr o BBC Scotland sy'n dal i geisio hawlio'u ffôn lloeren yn ôl ddiwrnod yn ddiweddarach.

    A beth am yr argraffiadau cyntaf o Beijing?

    Wel do'dd dim llawer i'w weld. Mae'r 'smog' cynddrwg ac y mae pawb yn ei ddweud.

    Mi roedd dydd Llun yn ddiwrnod swyddogol o 'awyr las' yn ôl gohebydd y BBC yn Beijing, Carrie Gracie.

    Wel licien i ddim bod yma ar ddiwrnod myglyd!

    Does dim amheuaeth fod pob ymdrech wedi ei wneud gan China i greu argraff ffafriol yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

    Roedd llwyni, blodau a lawntydd hollol berffaith y naill ochr a'r llall i'r brif hewl i ganol y ddinas o'r maes awyr.

    Mae lonydd Olympaidd wedi eu creu sy'n benodol ar gyfer trafnidiaeth y gemau, a baneri yn hyrwyddo Beijing 2008 ymhobman.

    Mewn tai bwyta, mae canlyniadau profion glendid arbennig yn cael eu harddangos.

    Ac mae'r bobl leol wedi eu trwytho i gyfarch ymwelwyr yn serchus. Mae tipyn o dasg gan drefnwyr Llundain 2012 i efelychu hyn.

    Ac o sôn am fwyd, rwy'n falch iawn o allu dweud fod tîm BBC Cymru yn hollol iach (os nad ffit) wedi'r pryd cyntaf.

    Cost hwnnw oedd £3.50 y pen gan gynnwys litr neu ddwy o gwrw - ydy, mae'n rhad 'ma.

    Rhaid cyfaddef i ni wrthod arbrofi gyda brogaod, perfedd buwch, a chlustiau mochyn... ond cafodd addewidion eu gwneud i fod ychydig yn fwy mentrus OS gaiff y Cymry lwyddiant.

    Medal i Geraint Thomas er enghraifft, a rhaid bwyta perfedd cwningen... medal ychydig yn fwy annisgwyl i Michaela Breeze, a bydd traed ieir ar y fwydlen.

    Roedd hi'n anhygoel o dawel o amgylch 'Y Nyth' (Y Stadiwm Genedlaethol) bore ddydd Mawrth.

    Ambell i ymwelydd yn crwydro, a phobl ar do'r stadiwm yn gosod tân gwyllt ar gyfer y seremoni agoriadol mae'n siŵr... ond oni bai am hynny roedd hi fel y bedd.

    Dim adeiladwyr na threfnwyr yn rhuthro i gwblhau tasgau munud olaf. Prawf fod Beijing yn barod ers amser ar gyfer y gemau.


  • chwaraeon



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy