Ac yntau'n dathlu ei ben-blwydd yn 29 oed roedd Roberts yn fuddugol yn yr S7 50m a'r 100m dull rhydd. Yn y ras 50m fe orffennodd y Cymro mewn amser o 28.56 eiliad gyda Matt Walker yn gorffen yn ail a Roberts fu'n arwain o'r dechrau yn y ras 100m. Ac fe sefydlodd Ellie Simmonds, y ferch sy'n ymarfer yn Abertawe, record byd newydd wrth ennill y S6 100m dull rhydd.
 |