BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 16 Medi 2009
Davies yn ystyried gadael y pwll

Mae David Davies wedi datgelu ei fod yn ystyried peidio cystadlu yn y pwll yn y Gemau Olympaidd yn 2012 er mwyn canolbwyntio ar y ras 10km mewn dŵr agored.

David Davies
Dywedodd y Cymro bod posibilrwydd cryf mai'r Gemau Cymanwlad 2010 yn Delhi fydd y tro olaf iddo gystadlu yn y ras 1500m dull rhydd yn y pwll.

"Oni bai fy mod i'n perfformio fel dwi'n gobeithio, dyna fydd y tro olaf i mi gystadlu mewn pencampwriaeth fawr yn y pwll," meddai Davies.

"Fedrai ddim gweld fy hun yn cystadlu yn y pwll yn Llundain yn 2012. Mae o'n gwneud synnwyr i mi beidio â chanolbwyntio ar y ras dŵr agored."

Roedd siom i Davies ym Mhencampwriaethau'r Byd yn ddiweddar wrth iddo fethu ac ennill medal yn y ras 1500m am y tro cyntaf ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2005.

Daeth y gŵr o'r Bari i amlygrwydd yn 2004 pan enillodd fedal efydd yn y Gemau Olympaidd yn Athens dros y pellter hynny.

Ni lwyddodd ailadrodd y gamp pedair blynedd yn ddiweddarach yn Beijing, ond enillodd y fedal arian yn y wrth gystadlu yn y ras dŵr agored dros 10km.

Ac wrth werthuso ei berfformiadau diweddar, mae Davies yn credu bod ganddo fwy o obaith llwyddo yn yr awyr agored yn hytrach nac o dan do'r pwll.

"Mae gen i gyfle gwych yn Llundain yn 2012," meddai Davies, sy'n 24 mlwydd oed.

"Mi faswn i wrth fy modd yn cystadlu yn y ddwy gamp ac ennill medal aur, ond y perfformiad sydd bwysicaf a cheisio sicrhau'r canlyniad gorau posib.

"Roeddwn yn drydydd yn Athens, yn ail yn Beijing a dwi eisiau bod yn gyntaf yn Llundain."

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy