Mae trefnwyr y gemau wedi cyhoeddi amserlen y cystadlaethau ac fe fydd cystadleuaeth pêl-droed y merched yn dechrau deuddydd cyn y seremoni agoriadol. Fe fydd y gêm gyntaf yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm ar ddydd Mercher, 25 Gorffennaf am 1600BST. Bydd gemau eraill yng nghystadleuaeth y merched yn cael eu cynnal yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw yn Coventry a Glasgow. Fe fydd cystadleuaeth y dynion yn dechrau diwrnod yn ddiweddarach gyda Old Trafford, St James's Park a Wembley hefyd yn llwyfannu gemau. Mae llywydd UK Athletics, Lynn Davies, wedi croesawu'r newyddion mai Caerdydd fydd yn llwyfannu'r gystadleuaeth gyntaf. "Mae'n newyddion gwych i Gaerdydd ac i Gymru o gofio y byddwn yn llwyfannu beth yw digwyddiad cyntaf Gemau Olympaidd 2012," meddai Davies. Cliciwch yma i weld yr amserlen lawn
 |