 Mae Cymru wedi llwyddo i ennill y nifer fwyaf o fedalau ers Gemau Olympaidd Munich yn 1972 ar ôl i Tom Lucy helpu tîm wyth gyda llywiwr Prydain i'r fedal arian. Ac mae gobaith gwirioneddol y bydd y beiciwr trac Geraint Thomas yn dilyn esiampl Nicole Cooke a Tom James drwy ennill aur yn rownd derfynol y ras gwrso ddydd Llun. Fe dorrodd Thomas a gweddill tîm Prydain record byd eu hunain wrth gyrraedd y rownd derfynol. Mae'r Cymro yn sicr o ddychwelyd gyda medal arian o leiaf cyn herio Denmarc yn y rownd derfynol. Bu'n rhaid i'r nofiwr David Davies fodloni gyda'r chweched safle yn rownd derfynol y ras 1500m. Syfrdanwyd y ffefryn Grant Hackett wrth i Oussama Melloui ennill y fedal aur i Tiwnisia. Yn y ras gyfnewid 4x100m i ferched fe helpodd Jemma Lowe y tîm i dorri record Prydain wrth iddyn nhw orffen yn bedwerydd yn y rownd derfynol. Roedd hi'n ddiwrnod nodedig i'r beiciwr Rebecca Romero wrth iddi gipio 11eg medal aur Prydain yn y ras gwrso unigol. Romero yw'r ail ddynes yn hanes y Gemau Olympaidd i ennill medal aur mewn dwy gamp gwbwl gwahanol ar ôl iddi ennill aur am rwyfo yn Athen yn 2004. Yn y Nyth roedd 'na lwyddiant pellach i wibwyr Jamaica yn dilyn llwyddiant Usain Bolt yn y ras 100m ddydd Sadwrn. Jamaica hawliodd y gamp lawn yn y ras 100m i ferched gyda Shelly-Ann Fraser yn ennill y fedal aur gyda Sherone Simpson a Kerron Stewart yn gyfartal ail. Ac yn ôl y disgwyl Ethiopia oedd yn dathlu ar ddiwedd y ras 10,000m i ddynion wrth i Kenenisa Bekele guro ai gyd wladwr Sileshi Sihine i hawlio'r fedal aur. Ac fe ychwanegodd Raphael Nadal y fedal aur Olympaidd i'w gasgliad o dlysau ar ôl ennill y gystadleuaeth tenis.
 |