BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 15 Awst 2008
Beijing: Dydd 7

Mae Michael Phelps gam yn agosach i'w freuddwyd o sicrhau wyth medal aur yn Beijing ar ôl iddo ennill y ras 200m gymysg unigol - gan sefydlu record byd arall.

Michael Phelps

Hon oedd y chweched fedal aur i'r Americanwr, a'r chweched tro iddo dorri record byd.

Roedd siom i Brydain wrth i James Goddard orffen y ras yn chweched a Liam Tancock yn wythfed.

Enillodd tîm gwibio Prydain y fedal aur ar y trac seiclo gan orffen hanner eiliad yng nghynt na'r pencampwyr byd, Ffrainc, yn y rownd derfynol.

Yn y ras ymlid unigol, fe sefydlodd Bradley Wiggins record Olympaidd newydd yn y rowndiau rhagbrofol. Llwyddodd Steven Burke i fynd ymlaen i'r rownd nesaf hefyd.

Draw yn y tenis, mae Fernando Gonzalez o Chile wedi cyrraedd rownd derfynol senglau'r dynion ar ôl curo'r Americanwr James Blake 4-6 7-5 11-9. Blake gurodd Roger Federer yn y rownd gynderfynol ddydd Iau.

Bydd Gonzalez yn chwarae Rafael Nadal neu Novak Djokovic yn y gêm am y fedal aur.

Cychwynnodd y campau athletau ddydd Gwener, gyda sêr 100m i ddynion yn cystadlu.

Lwyddodd Usain Bolt, Asafa Powell a Tyson Gay i gyrraedd y rownd gynderfynol, fydd yn cael ei chynnal am 1305 BST brynhawn ddydd Sadwrn, gyda'r rownd derfynol i ddilyn dwy awr a hanner yn ddiweddarach.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy