BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 14 Awst 2008
Beijing: Dydd 6

Sefydlodd Rebecca Adlington o Brydain record Olympaidd newydd wrth iddi ennill ei ras ragbrofol yn y 800m dull rhydd.

Roger Federer

Fe orffennodd mewn amser o wyth munud 18.06 eiliad i gyrraedd y rownd derfynol yn gyfforddus er mwyn ceisio ychwanegu at yr aur enillodd yn y 400m dull rhydd ddydd Llun.

Llwyddodd y Prydeinwyr Fran Halsall, Gregor Tait, Liam Tancock, James Goddard a Cassie Patten hefyd i gyrraedd y rowndiau terfynol.

Ond roedd siom i Mark Foster, oedd yn cystadlu yn ei bumed Gemau Olympaidd yn olynol, wrth iddo orffen yn y 23ain safle yn y 50m dull rhydd.

Mae tîm hoci Prydain, sy'n cynnwys y Gymraes Sarah Thomas, yn parhau ar drywydd lle yn y rownd gynderfynol ar ol curo Seland Newydd 2-1.

Yn y bocsio, bu llwyddiant i Tony Jeffries yn y pwysau is-drwm ond colli oedd hanes Bradley Saunders yn y pwysau welter.

Roedd siom hefyd i Nathan Robertson a Gail Emms yn y dyblau cymysg badminton wrth iddyn nhw golli yn y rownd gogynderfynol.

Enillodd y ddau fedal arian yn Athen pedair blynedd yn ôl.

Daeth breuddwyd Roger Federer o ennill medal aur yn y tenis i ben ddydd Mercher wrth iddo golli i'r Americanwr James Blake 6-4 7-6 yn rownd yr wyth olaf.

Roedd Federer, fydd yn colli ei le fel prif ddetholyn y byd i Rafael Nadal ddydd Llun, wedi ennill bob un o'r wyth gornest blaenorol yn erbyn Blake.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy