Ond roedd yna lwyddiant i dîm beicio Prydain wrth i Emma Pooley ennill y fedal arian, 24 eiliad y tu ôl i'r Americanes Kristin Armstrong. Rhodri Llywelyn yn adrodd ar ddiwrnod llwyddiannus arall i dîm beicio Prydain Roedd yna siom i'r Gymraes Jemma Lowe ar ôl iddi fethu o drwch blewyn i gyrraedd rownd derfynol y ras 200m yn null pili pala yn y Ciwb Dŵr yn Beijing. Er iddi orffen yn drydydd yn y rownd gynderfynol gyntaf mewn amser o 2:07.87 fe fethodd Lowe a chyrraedd y nod a hynny o 0.14 eiliad yn unig. Yn y cyfamser, mae Michael Phelps wedi torri'r record am ennill yn nifer fwyaf o fedalau aur yn y Gemau Olympaidd drwy hawlio ei 10fed a'i unfed fuddugoliaeth a'r ddeg ddydd Mercher. Andrew Weekes yn gweld hanes yn cael ei greu yn y Ciwb Dŵr Enillodd Phelps ei bedwerydd a'i bumed medal aur yn Beijing yn y 200m dull pili-pala ac yn y ras gyfnewid 200m dull rhydd. Mae'r Americanwr o fewn tair buddugoliaeth i guro record Mark Spitz enillodd saith fedal aur yng Ngemau Olympaidd Munich yn 1972. Hefyd ar y dŵr, mae'r Cymro Tom James ar drywydd fedal aur yn y rhwyfo yn Beijing ar ôl i bedwarawd heb lywiwr Prydain sicrhau eu lle yn y rownd derfynol. Mae James, Andy Hodge, Steve Williams a Pete Reed ymhlith y ffefrynnau i ennill y ras fydd yn cael ei gynnal fore Sadwrn ar ôl curo Awstralia a Ffrainc yn y rownd gynderfynol. Roedd rhagor o siom i Andy Murray yn y tenis wrth iddo golli gyda'i frawd, Jamie, yn ail rownd y dyblau i Michael Llodra and Arnaud Clement o Ffrianc.
Collodd yr Albanwr yn rownd gynta y senglau ddydd Llun.
 |