BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 12 Awst 2008
Beijing: Dydd 4

Enillodd Prydain eu medal arian gyntaf o'r Gemau yn Beijing ddydd Mawrth diolch i'r canŵiwr David Florence yn ras y slalom.

Joe Murray

Pedwerydd oedd yr Albanwr ar gychwyn y diwrnod ond neidiodd i fyny i'r ail safle ar ôl perfformiad gwych ar ei gyfle olaf i lawr y cwrs.

gwrando Rhodri Llywelyn yn crynhoi digwyddiadau'r pedwerydd diwrnod o gystadlu yn Beijing

Dyma'r tro cyntaf i Brydain ennill medal yn y canŵio ers i Gareth Marriott ennill yr arian yn Barcelona yn 1992.

Daeth mwy o lwyddiant pan enillodd dîm Prydain fedal efydd yn y marchogaeth dros dridiau - sef cystadlu dressage, neidio a thraws gwlad.

Ac yn ddiweddarach ychwanegodd Tina Cooke efydd arall yn y gystadleuaeth unigol.

Mae breuddwyd Michael Phelps o ennill wyth medal aur dal yn fyw ar ôl i'r Americanwr ennill y 200m dull rhydd - gan sefydlu record byd newydd arall.

Torrodd Phelps ei record ei hun drwy orffen bron i ddwy eiliad o flaen Park Tae-hwan o Dde Corea mewn amser o un munud a 42.96 eiliad.

Mae'r Americanwr eisoes wedi ennill aur yn y ras gymysg unigol dros 400m ac yn y ras gyfnewid 400m dull rhydd. Fe fydd yn mynd am ei bedwaredd fedal aur ddydd Mercher yn y 200m dull pili-pala.

Gorffennodd y Prydeiniwr Robbie Renwick yn wythfed.

Sefydlodd Americanwr arall, Aaron Peirsol record byd wrth gipio'r fedal aur yn rownd derfynol y 100m dull cefn.

Yng nghystadleuaeth gymysg y badminton, mae Gail Emms a Nathan Robertson drwodd i rownd yr wyth olaf wedi buddugoliaeth yn erbyn Gao Ling a Zheng Bo o Tsiena.

Ond mae'r bocsiwr Joe Murray allan o'r gystadleuaeth pwysau bantam ar ôl colli gornest ddadleuol yn erbyn Gu Yu o Tsiena.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy