Mewn diweddglo dramatig sicrhaodd Adlington y fedal aur o flaen Katie Hoff o'r Unol Daleithiau gyda Jackson hefyd yn gorffen yn gryf i orffen yn drydydd. Adlington yw'r ferch gyntaf o Brydain i sicrhau medal aur yn y pwll nofio ers i Anita Lonsbrough ennill ras y 200m pili-pala yng Ngemau Rhufain ym1960. Yn y gystadleuaeth plymio gydamserol 10m gorffennodd Tom Daley a Blake Aldridge yn wythfed wedi trydydd cynnig siomedig. Bydd Daley yn gobeithio gwneud yn well yn y gystadleuaeth unigol yr wythnos nesaf. Ac mae Andrew Murray allan o gystadleuaeth y senglau yn y tenis wedi iddo golli yn y rownd gyntaf yn erbyn Lu Yen-Hsun. Ond roedd tri o brif chwaraewyr y byd - Roger Federer o'r Swisdir, Rafael Nadal o Sbaen a Novak Djokovic o Serbia - yn fuddugol. Ond fe orffennodd diwrnod Andy Murray ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth yn y gystadleuaeth dyblau gyda'i frawd Jamie.
 |