Gorffennodd Dan Robinson, yr unig Brydeiniwr oedd yn cymryd rhan yn y ras, yn 24ain. Zou Shiming sicrhaodd medal aur aur gyntaf Tsiena yn y sgwar focsio a hynny wedi i anaf orfodi ei wrthwynebydd Serdamba Purevdorj i ymddeol o'r ornest pwysau pry. Ond roedd siom i'r Gwyddel Kenny Egan, golloddd yn erbyn bocsiwr arall o Tsiena, Zhang Xiaoping yn rownd derfynol y pwysau is-drwm. Sicrhaodd dynion yr Unol Daleithiau fedalau aur yn y cystadlaethau pêl-foli a pêl fasged. Y beiciwr Chris Hoy, enillodd dair medal aur yn velcodrome, sydd wedu derbyn yr anrhydedd o gludo baner Prydain ar gyfer y seremoni gloi yn y Nyth.
 |