BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 22 Awst 2008
Beijing: diwrnod 14

Tim Brabants yw'r diweddaraf i gipio medal aur i Brydain yn Beijing wedi ei fuddugoliaeth yn ras 1000m y caiac.

Tim Brabants

Bydd y meddyg, oedd eisoes wedi ennill pencampwriaethau Ewrop a'r Byd, yn cystadlu yn y ras 500m ddydd Sadwrn.

Ac roedd medal arian i Heather Fell yn y pentathlon modern, cystadleuaeth sydd wedi bod yn un llwyddiannus i ferched Prydain ers 2000.

Yn gynharach roedd siom i Shanaze Reade yng nghystadleuaeth beicio BMX wedi iddi gwympo ar y lap olaf.

Dioddefodd Reade anaf i'w llaw wedi'r gwymp a hynny ar ôl dechrau da i'r ras.

Sicrhaodd Usain Bolte trydydd medal aur a record byd arall gyda Jamaica yn ennill ras y 4x100m.

Mae'r bocsiwr Jamie DeGale drwodd i rownd derfynol y pwysau canol wedi ei fuddugoliaeth yn erbyn Darren Sutherland o Iwerddon.

Mae DeGale, fydd yn wynebu Emilio Correa o Cuba yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn, yn sicr o fedal arian o leiaf.

Ond roedd siom i'r ddau focsiwr arall o Brydain - David Price a Tony Jeffries.

Bydd yn ddau yn gorfod bodloni gyda medalau efydd, gyda'r Gwyddel Kenny Egan yn trechu Jeffries yn rownd gyn derfynol pwysau is-drwm.

Colli oedd hanes Gwyddel arall, Paddy Barnes yn erbyn Zou Shiming o Tsiena.

Gorffennodd tîm hoci merched Prydain - oedd yn cynnwys y Gymraes Sarah Thomas - yn chweched wedi iddynt golli o 2-0 yn erbyn Awstralia.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy