Roedd medalau arian ac efydd i Brydain yn ras nofio 10km agored yn Beijing ddydd Mercher. Keri-Anne Payne a Cassie Patten oedd wedi arwain y ras ond mewn diweddglo cyffrous Larisa Ilchenko o Rwsia gipiodd y fedal aur. Gorffennodd Natalie du Toit yn yr 16eg safle, camp anhygoel o gofio y bydd y ferch o Dde Affrica hefyd yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd fis nesaf. Bydd y Cymro David Davies yn cystadlu yn y ras i ddynion ddydd Iau. Yn y cystadlaethau hwylio sicrhaodd Prydain eu pumed medal o'r Gemau gydag efydd i Bryony Shaw yn yr hwylfyrddio. Ond roedd siom i Nick Dempsey yng nghystadleuaeth y dynion wedi iddo orffen yn bedwerydd. Mae'r bocsiwr James DeGale yn sicr o fedal efydd o leiaf wedi buddugoliaeth yn erbyn Bakhtiyar Artayev o Kazakhstan yn rownd wyth olaf cystadleuaeth y pwysau canol.
 |