Parhau mae llwyddiant anhygoel seiclwyr Prydain yn Beijing gyda Chris Hoy a Victoria Pendleton yn cipio medalau aur. 
Mae'r tîm seiclo wedi cipio cyfanswm o saith medal aur yn y Velodrome gyda Hoy yn sicrhau ei drydedd medal aur o'r Gemau ar ôl trechu ei gyd Brydeiniwr, Jason Kenny. Yn ôl y disgwyl cipiodd Paul Goodison fedal aur yn yr hwylio - bedair blynedd wedi iddo fethu â sicrhau medal yng Ngemau Athen. Ac yn y 'Nyth' fe enillodd Prydain eu medal aur gyntaf yn yr athletau gyda Christine Ohuruogu yn fuddugol yn y 400m. Yn gynharach roedd Germaine Mason wedi sicrhau medal arian annisgwyl yn y naid uchel. Wedi unarddeg diwrnod o gystadlu, mae Prydain wedi sicrhau un ar bymtheg medal aur - eu perfformiad gorau yn y Gemau ers canrif. Yn y bocsio mae Tony Jefferies yn sicr o fedal wedi iddo drechu Imre Szello o Hwngari o mewn gornest pwysau is-drwm. Bydd y Sais yn wynebu Kenny Egan o Iwerddon yn y rownd gyn derfynol ddydd Gwener. Yn y cystadlaethau pêl-droed, mae dynion Nigeria drwodd i'r rownd derfynol ar ôl buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Gwlad Belg. Yr Ariannin, enillwyr y fedal aur yn Athen, fydd eu gwrthwynebwyr ar ôl trechu Brasil o 3-0. Yn nhwrnament y merched bydd y deiliad yr Unol Daleithiau yn wynebu Brasil yn y rownd derfynol ddydd Iau.
 |