Liu Xiang oedd gobaith mawr Tsiena am fedal aur ar y trac athletau yng Ngemau Beijing. 
Ond tynnodd allan o'i ragras yn y 100m dros y clwydi oherwydd anaf er mawr siom i'r miloedd oedd yn bresennol yn y Nyth i'w wylio. Sicrhaodd Dayron Robles o Cuba, sy'n dal y record byd, ei le yn y rownd nesaf ynghyd â'r Prydeinwyr Andrew Turner ac Allan Scott Cipiodd Prydain fedal arall yn y cystadlaethau hwylio gyda Nick Rogers a Joe Glanfield yn hawlio arian. Ac fe fydd Paul Goodison yn cipio'r fedal aur ddydd Mawrth os yw'n osgoi gorffen yn olaf. Yn y bocsio mae David Price yn sicr o fedal yn y gystadleuaeth pwysau uwch drwm. Sicrhaodd Price ei le yn y rownd gyn derfynol wedi i anaf ddod â chystadleuaeth Jaroslav Jaksto o Lithwania i ben. Ond roedd siom i Beth Tweddle yn y gymnasteg gan orffen yn bedwerydd yng nghystadleuaeth y bariau anwastad. Mewn cyfweliad wedi'r gystadleuaeth gwadodd Tweddle ei bod yn ystyried ymddeol. Ac mae gobeithion y Gymraes Sarah Thomas a thîm hoci merched Prydain o sicrhau medal ar ben wedi gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn yr Unol Daleithiau.
 |