Du Li oedd wedi ennill y fedal aur yn Athen oedd y ffefryn, ond gadawodd y neuadd mewn dagrau ar ôl gorffen yn bumed. Wei Pang enillodd y gystadleuaeth i ddynion - un o ddwy fedal aur i Tsiena sicrhau ar y diwrnod cyntaf. Y Sbaenwr Samuel Sanchez enillodd y ras lôn i seiclwyr gyda'r Gymraes Nicole Cooke yn cystadlu yn ras y merched ddydd Sul. Daeth gobeithion Craig Fallon o fedal aur yn y Jiwdo 60kg i ben ar ôl iddo golli yn erbyn Ludwig Paischer.A doedd dim gwobr gysur o fedal efydd i'r gŵr o Wolverhampton wedi i Gal Yekutiel o Israel ei drechu. Yn y cystadlaethau rhwyfo cafodd dîm Prydain ddechrau da. Roedd y pedwarawd heb lywiwr, gan gynnwys Tom James o Goedpoeth, yn fuddugol yn eu rhagras.
 |