BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 19 Medi 2008
Tîm Prydain yn cyrraedd y nod

ganAled Williams


Gorffen yn yr ail safle yn nhabl y medalau oedd y nod i dîm Prydain cyn y Gemau Paralympaidd yn Beijing.

Ac ni chafodd Gerwyn Owen, Rheolwr Academi Chwaraeon Anabledd Cymru, ei siomi gyda Team GB yn sicrhau cyfanswm o 102 o fedalau.

"Roedde ni wedi argoeli y byddai tîm Prydain yn gorffen yn bumed neu pedwerydd," meddai Gerwyn.

"Ond roedd gorffen yn ail yn y tabl y tu ôl i China yn anhygoel.

"Roedd 31 o'r athletwyr fu'n cystadlu yn dod o Gymru sef 15 y cant o dîm Prydain a rhaid cofio bod poblogaeth Cymru yn bump y cant o gyfanswm Prydain.

"Fe enillodd y Cymry ddeg o'r 42 medal aur ac mae hynny'n 20 y cant o'r medalau aur enillodd tîm Prydain."

Yn ogystal â'r 10 medal aur yr enillodd y Cymry yn Beijing roedd llwyddiant i gystadleuwyr eraill sydd yn ymarfer yng Nghymru.

Yn eu plith Eleanor Simmonds, gyda'r ferch ifanc yn un o sawl cystadleuydd sy'n ymarfer yn y pwll nofio cenedlaethol yn Abertawe.

"Roedd gan yr hyfforddwr Billy Pye saith nofiwr yng ngharfan Prydain, gan gynnwys Dave Roberts enillodd yr uchafswm o fedalau aur," medd Gerwyn.

"Mae 'na nifer o nofwyr o Loegr yn symud i Abertawe oherwydd y cyfleusterau sydd gennym ni yn ogystal â chefnogaeth y Cyngor Chwaraeon.

"'Da ni'n falch o'r gefnogaeth ariannol ry ni'n ei gael gan y Cynulliad trwy'r Cyngor Chwaraeon."

Seren Cymru - a Prydain - yn ystod y Gemau heb os oedd y nofiwr 28 oed, Dave Roberts.

Enillodd Roberts bedair medal aur yn Beijing gan ddod yn gyfartal â chyfanswm Tanni Grey-Thompson o unarddeg medal aur yn y Gemau Paralympaidd.

"Mae'n broffesiynol iawn ac yn gwybod yn union be' mae angen ei wneud," meddai Gerwyn wrth sôn am Roberts.

"Mae ganddo'r awch a dyna be sydd yn ei wneud mor llwyddiannus - y tro hwn ac mewn Gemau blaenorol."

Y gobaith yw y bydd campau Roberts ac eraill yn Beijing yn ysgogi eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Dywed Gerwyn y bu cynnydd ystod y chwe blynedd ddiwethaf yn y nifer o bobl anabl sydd bellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

"Ers 2002 'da ni wedi creu strwythur cymunedol lle mae pobl yn cael cymryd rhan mewn chwaraeon yn gystadleuol neu yn ystod amser hamdden.

"'Da ni hefyd yn ceisio sicrhau bod pobl gydag anableddau yn cael mynediad i glybiau er mwyn integreiddio.

"Os oes gennym ni cyn gymaint o bobl a phosib yn cymryd rhan mewn chwaraeon yna mae modd i ni ddewis y rhai talentog.

"Maen nhw'n cael eu dewis ar gyfer yr academi ac i gystadlu yn genedlaethol.

"Y nod wedi hynny yw eu bod yn cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd."

Yn ystod y seremoni gloi yn Beijing gwelwyd yr awenau yn cael eu trosglwyddo i Lundain, fydd yn cynnal y Gemau ymhen pedair blynedd.

Ac mae'r paratoadau ar gyfer Gemau 2012 wedi dechrau eisoes medd Gerwyn Owen.

"'Da ni wedi bod yn gweithio ar gyfer Llundain ers 2005/2006," meddai.

"Mae gennym ni 70 o athletwyr yn yr academi a'r prif nod yw cael cyn gymaint ohonynt yn nhîm Prydain ar gyfer Llundain.

"'Da ni'n ffodus iawn fod gennym y cyfleusterau fel y ganolfan athletau cenedlaethol dan do yng Nghaerdydd a'r pwll nofio yn Abertawe.

"Ac yn rhanbarthol mae gennym bwll nofio newydd yn Llandudno tra bod athrofa chwaraeon gogledd ddwyrain Cymru yn gefnogol

"Ry' ni hefyd yn sicrhau bod gennym yr hyfforddwyr cywir a'r systemau cywir mewn lle er mwyn iddynt o leiaf geisio cyrraedd y nod."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy