Gyda Phrydain yn gorffen yn ail yn nhabl y medalau, sicrhaodd y Cymry 14 aur, 3 medal arian ac un efydd. Cipiodd y nofiwr Dave Roberts pedair medal aur, gan ddod yn gyfartal a record Tanni Grey-Thompson o 11 medal aur Paralympaidd. "Gall Gymru fod yn falch o'n campwyr Paralympaidd sydd wedi cynnal yr ysbryd gwych sydd wedi bodoli ym myd campau Cymru trwy gydol y flwyddyn," meddai Rhodri Morgan. "Daeth tyrfa enfawr i Fae Caerdydd i groesawu'n campwyr Olympaidd adref o Beijing, a hoffwn weld yr un croeso anhygoel i'n Paralympwyr hefyd. "Fel gyda'r gemau Olympaidd, mae'r cystadleuwyr o Gymru wedi arwain Tîm GB yn eu rhuthr am aur, a gyda'i gilydd maen nhw wedi codi proffil y mudiad Paralympaidd yng ngolwg y cyhoedd. "Maen nhw'n wir haeddu cael eu croesawu adref fel arwyr," ychwanegodd. Bydd y cystadleuwyr yn cael eu croesawu'n ôl yn swyddogol y tu allan i adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Llun nesaf.
 |