| Sefydlodd Roberts record byd newydd wrth sicrhau ei drydedd medal aur yn Beijing, a'i 10fed yn ei yrfa yn y Gemau. Er gwaethaf y llwyddiant, roedd Roberts yn feirniadol o'i berfformiad yn y Ciwb Dŵr. "Nes i ddim nofio'n dda, roeddwn i'n gobeithio mynd saith eiliad yng nghynt, ond dyna ni dwi wedi ennill medal aur," meddai Roberts, sy'n 28 mlwydd oed. "Nes i ddim ymlacio digon ac mae gen i wersi i'w dysgu oherwydd hynny. Mae gen i ddau ddiwrnod i ffwrdd rŵan er mwyn mesur a phwyso fy mherfformiad." Yn y ras 50m dull rhydd ddydd Sul fydd Roberts yn cystadlu nesaf, gyda'i ras olaf yn dilyn diwrnod yn ddiweddarach yn y ras gyfnewid gymysg. Mae Roberts eisoes wedi ennill medlau aur yn y ras gyfnewid 4x100m dull rhydd ac yn y ras 100m dull rhydd.
 |