| Lewis, yn wreiddiol o'r Porth, oedd y ffefryn i ennill ond bu rhaid iddi fodloni ar fedal arian ar ôl cael ei churo gan Mirjam de Koning-Peper o'r Iseldiroedd. Roedd amser Koning-Peper o un munud 28.34 eiliad dwy eiliad yn gynt na'r record Paralympaidd sefydlwyd gan Lewis yn y rownd ragbrofol. "Mi gefais i broblemau gyda fy nghoesau, ond i fod yn onest does dim esgusodion am hynny," meddai Lewis, oedd yn gobeithio amddiffyn ei choron. Roedd medal arall yn y pwll yn Beijing ddydd Mawrth pan enillodd Anthony Stephens efydd yn y ras 200m dull rhydd. "Doedd o ddim yr amser gorau erioed, mi roeddwn i eiliad yn arafach na fy amser gorau," meddai Stephens o Abertawe. "Ond dwi'n hapus fy mod i wedi ennill medal felly fedra i ddim cwyno."
 |