Fe enillodd Simon Richardson, 41 oed o Borthcawl, y fedal yn y ras gwrso 1km mewn 1 munud 14.936 o eiliadau. Fe dorrodd record y byd wrth efelychu camp y beic wraig Nicole Cooke yn y Gemau Olympaidd drwy sicrhau'r aur gyntaf i'w dim. Gerwyn Owen yn gwylio Simon Richardson yn ennill aur "Rwy wedi synnu'n fawr," meddai. "Mae hyn yn hollol annisgwyl." Hwn oedd y tro cyntaf iddo gystadlu yn y gemau. Dywedodd iddo gael ei anafu mewn damwain ffordd yn 2001. "Roedd y meddygon wedi dweud y gallwn i fod mewn cadair olwyn os nad oeddwn i'n ailgydio yn y gamp." Ac roedd mwy o lwyddiant i feicwyr Prydain wrth i Aileen Glynn ennill y seiclo i'r rhannol dall gyda Ellen Hunter o Wrecsam yn ei chynorthwyo. Enillodd Prydain pedair medal aur ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu yn Beijing.
 |