BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 21 Awst 2008
Davies yn brwydro i sicrhau medal arian

Sicrhaodd y Cymro David Davies fedal arian haeddiannol yn y ras nofio 10km agored yn y Gemau Olympaidd yn Beijing.

David Davies

Bu Davies yn arwain am ran fwyaf o'r ras cyn i'r Iseldirwr Maarten van der Weijden fanteisio a'i guro o 1.5 eiliad.

Disgrifiodd Davies y ras fel "yr anoddaf erioed" a bu'n rhaid iddo dderbyn triniaeth meddygol wedi dwy awr yn y dŵr.

Dywedodd bod nifer o'r cystadleuwyr wedi defnyddio tactegau 'brwnt' wrth geisio ei dynnu yn ôl.

"Fe wnes i roi popeth a dyna be' ro' ni eisiau gwneud - ac mae gennyf rywbeth i ddangos am hynny yn awr," meddai Davies.

"Dim ond tair ras 'dwi wedi gwneud o'r blaen a 'dwi'n dysgu drwy'r adeg."

Ymateb David Davies wedi'r ras

Ychwanegodd Davies ei fod wrth ei fodd ei fod wedi ychwanegu medal arian at ei gasgliad Olympaidd.

Cipiodd fedal efydd yn Athen bedair blynedd yn ôl yn y 1500m dull rhydd.

Talodd Davies deyrnged i Van der Weijden, gŵr sydd wedi goroesi lewcemia, gan ddweud: "Mae ei stori yn un anhygoel ac yn ysbrydoliaeth."

Hon oedd y drydedd fedal i Brydain gipio yn y ras nofio agored yn Beijing

Ddydd Mercher sicrhaodd Keri-Anne Payne a Cassie Patten arian ac efydd yn ras y merched.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy