BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 17 Awst 2008
Davies yn dioddef yn y rownd derfynol

Diflannodd gobeithion David Davies o ennill medal Olympaidd wrth i'r gŵr o'r Barri orffen rownd derfynol y 1500m dull rhydd yn y chweched safle.

David Davies

Roedd y Cymro yn edrych i wella ar y fedal efydd enillodd yn Athen yn 2004 ond roedd y gystadleuaeth yn y Ciwb Dwr yn Beijing yn un hynod gystadleuol.

Syfrdanwyd y ffefryn Grant Hackett wrth i Oussama Melloui ennill y fedal aur i Tiwnisia.

Rhodri Llywelyn yn holi David Davies wedi'r rownd derfynol

Ryan Cochrane o Ganada oedd yn drydydd gyda Davies yn cwblhau'r ras mewn amser o 14 munud 52.11 eiliad, chwe eiliad union yn arafach na'r hyn a gyflawnodd yn y ras rhagbrofol ddydd Gwener.

Meddai Davies: "Roedd y ras yn eithriadol o gyflym, mae rhai o'r amseroedd yma yn Beijing yn anhygoel.

"Roedd hi'n ymdrech hyd yn oed i gyrraedd y rownd derfynol ac roedd y tanc yn wag erbyn y diwedd."

Fe fydd Davies yn gobeithio am fwy o lwyddiant yn y ras 10k agored ddydd Gwener.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy