Gyda'r llinell derfyn yn agosáu bu'n rhaid i griw Prydain o James Andy Hodge, Steve Williams a Pete Reed frwydro'n galed i ddal yr Awstraliaid cyn hawlio'r teitl Olympiadd a hynny am y drydedd waith yn olynol. Rhodri Llywellyn yn gwylio'r Cymro Tom James yn cipio'r fedal aurAc wrth i'r gŵr o Goedpoeth ger Wrecsam efelychu camp Nicole Cooke yn gynharach yn yr wythnos, mae Cymru wedi ennill dwy fedal aur mewn un Gemau Olympaidd am y tro cyntaf ers 1920. Meddai'r Cymro ar ddiwedd y ras: "Roedden ni'n yn gwybod y byddai'r timau eraill yn ymosod yn galed ar ddechrau'r ras, ond roedd hunan gred gennym i lwyddo." Mae camp y pedwarawd yn fwy nodedig o gofio mai dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw gystadlu gyda'i gilydd fel tîm. Bu James, 24, yn dioddef yn sgil anaf i'w gefn yn ystod y tymor ac felly hefyd Hodge, ac anwadal bu perfformiadau'r criw cyn Gemau Beijing.
 |