Buddugoliaeth Cooke yn y ras lôn ddydd Sul oedd y tro cyntaf i gynrychiolydd ia Gymru ennill medal aur yn y Gemau ers Richard Meade ym 1972. "Roedd hi'n newyddion da i glywed bod Nicole wedi ennill medal aur," meddai Davies, fydd yn cystadlu yn rhagras y 1500 medr dull rhydd yn Beijing ddydd Gwener. "'Dwi'n falch iawn fy mod yn adnabod Nicole. Mae hi wedi bod yn ymarfer yn galed ar gyfer y Gemau. "Mae'n beth da i Gymru ac i bawb yn nhîm GB." Dywed Davies y daw medal aur Cooke yn ystod blwyddyn gofiadwy i fyd y campau yng Nghymru. Enillodd y tîm rygbi'r Gamp Lawn, bu llwyddiant Joe Calzaghe yn yr Unol Daleithiau cyn i Gaerdydd yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr. "Fel gwlad 'da ni wedi gosod safonau uchel ac mae'r campau gwahanol wedi ffynnu llwyddiannau eraill," meddai Davies. "'Dwi wedi son am flwyddyn dda Cymru gydag aelodau'r tîm a tydio ddim yn gyd-ddigwyddiad. "Mae'r llwyddiant oherwydd gwaith caled athletwyr talentog."
 |