Roedd Lowe, sy'n 18 mlwydd oed, ymysg y ceffylau blaen hanner ffordd ond fe flinodd tua'r diwedd i orffen mewn amser o 58.06 eiliad.
Libby Trickett o Awstralia enillodd y ras (56.73 eiliad), yr Americanes Christine Magnuson yn ail a Jessicah Schipper o Awstralia yn drydedd.
Sefydlodd Lowe record Brydeinig o 57.78 eiliad yn y rownd gynderfynol er mwyn gyrraedd y ras am y medalau, a dywedodd ei bod heb yn ddigon bodlon gyda'i pherfformiad yn y rownd derfynol. "Mae'n rhaid i mi fod yn hapus, dwi newydd nofio mewn ras derfynol yn y Gemau Olympaidd," meddai Lowe, sy'n dod o Hartlepool ond sydd â thad sy'n hanu o Gaerdydd.
Bydd Lowe yn cystadlu yn y 200m pili-pala ddydd Mawrth am 1210 BST.
Dim ond dwy nofwraig sydd wedi gorffen y ras mewn amser cynt na Lowe dros 200m y flwyddyn yma.
Yn y cyfamser, enillodd Rebecca Adlington ail fedal aur i Brydain yn Beijing wrth iddi gipio'r aur yn y 400m dull rhydd.
Dyma'r tro cyntaf ers 48 mlynedd i ferch Brydeinig ennill medal aur yn y pwll.
Roedd rhagor o ddathlu i Brydain wrth i Jo Jackson o Brydain orffen y ras yn drydydd.
 |