Llwyddodd Cooke i gipio'r fedal aur er gwaethaf y glaw trwm oedd wedi creu amgylchiadau anodd i'r cystadleuwyr. Gorffennodd y ferch 25 oed o'r Wig y ras yn gryf gan groesi'r llinell o flaen Emma Johansson o Sweden a Tatiana Guderzo o'r Eidal. Nicole Cooke yn sbrintio i'r aur yn BeijingEnillodd Cooke mewn amser o dair awr, 32 munud a 24 munud i gipio medal gyntaf Prydain yn ras lôn. Bu cyfraniad ei chyd seiclwyr, Sharon Laws ac Emma Pooley yn hanfodol i ymdrechion Cooke. Roedd Cooke yn griw o bump dyma'n torri'n rhydd o'r peloton gyda 10km yn wedill wrth i'r ras gyrraedd diweddglo cyffrous. "'Dwi wedi gwireddu breuddwyd," meddai Cooke, orffennodd yn bumed yn Athen bedair blynedd yn ôl. "Mae'n rhaid i mi ddiolch i bawb sydd wedi bod gyda mi ers y dechrau. 'Dwi wedi gweithio mor galed a 'dwi mor hapus." Dyma'r tro cyntaf i gynrychiolydd o Gymru ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd ers y marchogwr Richard Meade yn Munich ym 1972. Ac mae buddugoliaeth Cooke hefyd yn arwyddocaol am y ffaith mai hon oedd y 200fed medal aur y mae Prydain wedi ennill yn y Gemau.
 |