Dros yr 16 diwrnod nesaf, bydd miloedd o gystadleuwyr o 204 gwlad yn cymryd rhan mewn 28 o gampau gwahanol. Argraffiadau Rhodri Llywelyn wedi'r Seremoni Agoriadol
Ymysg y rheini bydd 12 o Gymry - 6 dyn a 6 merch - yn cystadlu dros Brydain ac yn ceisio ymuno a'r criw detholedig sydd wedi ennill medalau Olympaidd.
Dim ond dau gystadleuydd o Gymru sydd wedi dychwelyd gyda medal o'r ddau Gemau Olympaidd diwethaf, a does neb wedi ennill medal aur ers Richard Meade yn 1972.
Ond mae gobeithion yn uchel am fwy o lwyddiant y tro hyn, gyda'r seiclwr Geraint Thomas a'r rhwyfwr Tom James ymysg y ffefrynnau am aur.
Mae David Davies (nofio), Nicole Cook (beicio), Helen Tucker (triathlon) a Tom Lucy (rhwyfo) hefyd yn ymgeiswyr realistig am fedalau.
James fydd y Cymro cyntaf i gystadlu pan fydd yn cymryd rhan mewn ras rhagbrofol i dimau o bedwar heb lywiwr am 1030 bore dydd Sadwrn.
Bydd Thomas Haffield a Jemma Lowe yn y pwll rhyw awr yn ddiweddarach hefyd.
Y tîm cartref, China, sydd gyda'r nifer fwyaf o gystadleuwyr, gyda 639 yn cystadlu ym mhob un o'r campau.
 |