Foster, fydd yn cystadlu yn y 50m dull-rhydd yn y Gemau, sydd wedi ei dewis yn dilyn pledlais. Mae Foster yn dilyn yn ôl troed Matthew Pinsent, Syr Steve Redgrave a Kate Howey oedd wedi arwain Prydain mewn Gemau blaenorol. Y gŵr 38 oed o Swydd Essex yw'r nofiwr cyntaf ers i Anita Lonsbrough gludo'r faner yn seremoni agoriadol 1964. Bydd Foster yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y pumed tro yn Beijing ac yn gobeithio ychwanegu at y 47 medal ryngwladol y mae eisoes wedi ennill yn ystod ei yrfa.
 |