BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 24 Awst 2008
Gemau Olympaidd Beijing yn dirwyn i ben

Yn dilyn y Gemau Olympaidd mwya' llwyddiannus erioed, yn ôl rhai, fe ddaeth Gemau Beijing i ben mewn seremoni gloi liwgar.

Fe gafwyd arddangosfa tân gwyllt dramatig cyn i'r cystadleuwyr orymdeithio i mewn i stadiwm y 'Nyth' gyda 90,000 o bobl yn bresennol.

Fe barodd y seremoni am dair awr, gyda'r seiclwr o'r Alban Chris Hoy, enillodd dair medal aur, yn derbyn y fraint o arwain tîm Gwelydd Prydain i'r stadiwm.

Yn ystod y seremoni fe dderbyniodd Maer Llundain, Boris Johnson y faner Olympaidd.

Ac yn ogystal fe gafwyd cyflwyniad byr gan drefnwyr Gemau 2012, oedd yn cynnwys ymddangosiad gan cyn gapten Lloegr, David Beckham.

Gemau Beijing oedd y rhai mwya' llewyrchus i wledydd Prydain ers canrif a'r rhai mwya' llwyddiannus i Gymru ers 1920.

Gorffennodd Prydain yn bedwaredd yn y tabl medalau gyda 19 medal aur mewn cyfanswm o 47.

Ymhlith y Cymry a gipiodd fedal roedd Nicole Cooke, Tom James, Geraint Thomas yn sicrhau aur gyda medalau arian i David Davies a Tom Lucy.

Ffrainc enillodd medal aur ola'r gemau yn y pêl-law gyda Sammy Wanjiryu o Kenya yn fuddugol ym marathon y dynion.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy