| Fe wnaeth Price y cyfaddefiad ar ôl derbyn gwobr arbennig gan y PGA am ei gyfraniad i golff yng Nghymru. "Ar sawl tro fe wnes i ystyried rhoi'r gorau," meddai Price, sydd bellach yn rhif 731ar restr detholion y byd. "Am ryw reswm nid oeddwn eisiau chwarae rhagor. Yr oeddwn yn meddwl bod fy ngyrfa yn dirywio ac y byddai o bosib yn rhoi'r gorau." Buddugoliaeth Price yn erbyn Phil Mickelson yn y senglau sicrhaodd y Cwpan Ryder i Ewrop yn y Belfry wyth mlynedd yn ôl. Ond yn sgil perfformiadau siomedig bu bron i Price golli ei le ar gylchdaith Ewrop y tymor nesaf gan arwain iddo ystyried ei ddyfodol. Llwyddodd i sicrhau ei le ar y gylchdaith fodd bynnag diolch yn bennaf wedi iddo orffen yn wythfed ym Mhencampwriaeth Alfred Dunhill.
 |