BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 04 Hydref 2010

Ewrop yn adennill y Cwpan Ryder

Mae tîm Ewrop wedi adennill y Cwpan Ryder wedi diweddglo dramatig ar y pedwerydd diwrnod o gystadlu yn y Celtic Manor.

Colin Montgomerie gyda Chwpan Ryder

Fe ddaeth y gystadleuaeth lawr i'r gêm olaf gyda'r Americanwr Hunter Mahan yn ildio gyda Graeme McDowell yn ennill o dri twll gyda thwll yn weddill.

Roedd hynny yn ddigon i weld Ewrop yn sicrhau buddugoliaeth o 14.5 i 13.5 gan gipio'r Cwpan Ryder yn ôl o afael yr Unol Daleithiau.

Ar ddechrau'r sesiwn olaf o 12 gêm senglau ddydd Llun ar y blaen o 9.5 i 6.5 yn erbyn Yr Unol Daleithiau yn Celtic Manor.

Ond yr Unol Daleithiau enillodd ddwy gêm agoriadol y sesiwn olaf i leihau mantais yr Ewropeaid.

Roedd Steve Stricker yn drech na Lee WestGraeme McDowell yn dathluwood o ddau dwll cyn i Dustin Johnson ysgubo Martin Kaymer o'r neilltu gyda buddugoliaeth o chwe twll.

Tarodd Ewrop yn ôl pan enillodd Ian Poulter o bum twll yn erbyn Matt Kuchar a Luke Donald yn fuddugol o un twll yn erbyn Jim Furyk.

Cyfartal oedd y gêm rhwng Rory McIlroy a Stewart Cink gyda'r timau yn derbyn hanner pwynt yr un.

Roedd Jeff Overton yn fuddugol o dri twll yn erbyn Ross Fisher ond fe enillodd Miguel Angel Jimenez o bedair twll yn ebryn Bubba Watson.

Ond roedd Tiger Woods wedi lleihau mantais Ewrop ymhellach wedi buddugoliaeth o bum twll yn erbyn Francesco Molinari.

Ac roedd yr Americanwyr wedi dod o fewn pwynt i Ewrop gyda'r sgôr yn 13-12 wedi buddugoliaeth Phil Mickleson o bedair twll yn erbyn Peter Hanson.

Cyfartal orffennodd y gêm rhwng Edoardo Molinari a Rickie Fowler gyda'r Americanwr yn hawlio tair pluen yn y tair twll olaf.

Ac roedd y sgôr yn gyfartal 13.5 yr un wedi i Zach Johnson guro'r Gwyddel Padraig Harrington o dri thwll.

Roedd hynny'n golygu bod tynged y Gwpan wedi dod lawr i'r twll olaf a'r gêm rhwng Graeme McDowell a Hunter Mahan ac y gŵr o Ogledd Iwerddon oedd i brofi'n arwr Ewrop.

Bu'n rhaid ymestyn y cystadlu i bedwerydd diwrnod gyda'r glaw yn gorfodi chwarae ar ddydd Llun am y tro cyntaf erioed.

Collwyd saith awr o chwarae oherwydd y glaw ddydd Gwener, a doedd dim modd dechrau ddydd Sul tan 1.30pm wedi mwy o gawodydd trwm.

Bu'n ddiwrnod cofiadwy i Ewrop ddydd Sul wrth i dîm Colin Montgomerie gasglu 5.5 pwynt allan o'r chwech oedd ar gael.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy