BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 05 Hydref 2010

Montgomerie ddim am barhau fel capten Ewrop

Mae Colin Montgomerie wedi argymell Jose Maria Olazabal fel ei olynydd yn dilyn buddugoliaeth tîm Ewrop dros yr Unol Daleithiau yn y Cwpan Ryder.

Tîm Ewrop yn dathlu eu buddugoliaeth
Sicrhaodd Ewrop fuddugoliaeth ddramatig yn y gêm olaf yn y Celtic Manor i adennill y Gwpan.

Mae Montgomerie wedi dweud nad yw'n fwriad ganddo i fod yn gapten Ewrop fyth eto wedi'r fuddugoliaeth.

Ac yn awr mae'r Albanwr wedi datgan mai Olazabal - oedd yn un o bum is-gapten yn y Celtic Manor - ddylai arwain Ewrop ymhen dwy flynedd.

"Roedd hi rhwng y fo a fi i fod yn gapten y tro hwn ac ymhen dwy flynedd fe fydd yn 46, blwyddyn yn iau nag ydwyf yn awr," meddai Montgomerie.

"Ni fyddwn yn gwneud hyn eto. Mae ond yn iawn fod eraill yn cael cyfle."

Olazabal yw'r ffefryn i gael ei benodi'n gapten Ewrop ar gyfer y gystadleuaeth yn Medinah, Chicago yn 2012.

Ar gyfer y gystadleuaeth yn y Celtic Manor fe gafodd Darren Clarke, Paul McGinley, Thomas Bjorn a Sergio Garcia eu penodi yn is-gapteniaid Ewrop.

Ychwanegwyd Olazabal i'r tîm hwnnw wedi'r diwrnod agoriadol ar ôl i'r tywydd anffafriol orfodi newid i drefn y gystadleuaeth.

Tra bod y Sbaenwr yn ffefryn i olynu Montgomerie ymhen dwy flynedd, mae'n disgwyl mai'r Gwyddel McGinley fydd capten Ewrop yn Gleneagles yn 2014.

Bernard Gallacher oedd y gŵr olaf i arwain Ewrop fwy nag unwaith gan arwain ei dîm i fuddugoliaeth ym 1995 ar ôl colli ar ddau achlysur blaenorol.

Ers hynny mae Seve Ballesteros, Mark James, Sam Torrance, Bernhard Langer, Ian Woosnam a Nick Faldo wedi arwain Ewrop.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy