Rhwydodd ymosodwr Real Madrid y gôl holl bwysig wedi pedwar munud o'r gêm yn ail rownd Cwpan y Byd a thorri'r record roedd yn rhannu â Gerd Muller wedi ei ddwy gôl yn erbyn Siapan nos Iau.
Gwnaeth Ronaldo ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd yn America ym 1994 fel bachgen 17-mlwydd-oed.
Rhwydodd ei gôl gyntaf yng Nghwpan y Byd pedair blynedd yn ddiweddarach yn erbyn Morocco yn Nantes, Ffrainc ac ychwanegodd dair gôl arall wrth i Frasil gyrraedd y rownd derfynol.
Dirgel yn Ffrainc
Roedd disgwyl i Frasil ennill y bencampwriaeth ond cafwyd un o eiliadau mwyaf dirgel Cwpan y Byd pan gyhoeddwyd tîm Brasil ar gyfer y rownd derfynol.
Nid oedd enw Ronaldo ar y rhestr wreiddiol ond fe'i newidiwyd cyn y gic gyntaf i ychwanegu'r ymosodwr i'r tîm.
Mae cryn ddyfalu wedi bod byth er hynny am y rheswm dros ei adael allan o'r XI gwreiddiol, ond roedd yn amlwg i bawb nad oedd ar ei orau wrth i Ffrainc chwalu Brasil 3-0 a chipio'r tlws.
Daeth uchafbwynt gyrfa Ronaldo yn ystod Cwpan y Byd 2002 yn Siapan a De Corea wrth iddo rwydo dwy gôl arbennig yn y rownd derfynol yn erbyn Yr Almaen i sicrhau pumed coron i Frasil.
Roedd hefyd yn sicrhau ei le fel prif sgoriwr y gystadleuaeth ag wyth gôl.
 |