BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 02 Mai 2006
1994: UDA
Llwyddodd America i drechu Morocco a Brasil am yr hawl i gynnal pencampwriaeth 1994, penderfyniad oedd wedi synnu llawer o bobl o ystyried cyn lleied o gefnogwyr pêl-droed oedd yn y wlad.

Lleoliad UDA UDA
Timau 24
Pencampwyr Brasil Brasil
Prif Sgorwyr Hristo Stoitchkov Bwlgaria
Oleg Salenko Rwsia
6 gôl

Er hyn cafwyd torfeydd uchel iawn ar gyfer y gemau, gyda'r cyfartaledd o 69,000 yn torri record oedd wedi sefyll ers 1950.

Chwaraeodd Gwlad Groeg, Nigeria a Saudi Arabia yn y rowndiau terfynol am y tro cyntaf.

A chwaraewyd gêm dan do yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf erioed wrth i America herio Swistir yn y Pontiac Silverdome.

Hefyd, wedi Wal Berlin ddod i lawr, roedd tîm unedig o'r Almaen yn cystadlu am y tro cyntaf ers 1934.

Ond fe synnwyd y deiliaid gan dîm disglair Bwlgaria yn rownd yr wyth olaf wrth i brif sgoriwr y gystadleuaeth, Hristo Stiochkov, a Iordan Letchkov rwydo i yrru'r Bwlgariaid drwodd i'r rownd gynderfynol.

Mae'n deg dweud na fyddai unrhyw un wedi dychmygu cyn y bencampwriaeth mai Sweden a Bwlgaria fyddai dau o'r timau yn y rownd gynderfynol.

Ond ni lwyddodd y naill dîm na'r llall i gymryd y cam olaf i'r rownd derfynol wrth i Frasil a'r Eidal eu trechu.

Roedd y rownd derfynol yn un o'r gemau mwyaf diflas erioed gyda'r gêm yn gorffen heb gôl wedi 120munud o chwarae a bu rhaid cael ciciau o'r smotyn am y tro cyntaf erioed mewn rownd derfynol.

Brasil oedd yn fuddugol gan ennill y tlws am y pedwerydd tro yn eu hanes wedi Roberto Baggio fethu cic o'r smotyn i'r Eidalwyr.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy