BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 15 Mai 2006
1998: Ffrainc
Am y tro cyntaf erioed, roedd 32 o dimau yn cael eu lle yn y rowndiau terfynol wedi Fifa ganiatau llefydd ychwanegol i dimau o Affrica ac Asia a Chanolbarth America.

Lleoliad Ffrainc Ffrainc
Timau 32
Pencampwyr Ffrainc Ffrainc
Prif Sgorwyr Davor Šuker Croatia
6 gôl

O'r herwydd, roedd Siapan, De Affrica a Jamaica yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd.

Ac yn dilyn cwymp yr hen Iwgoslafia, roedd Croatia yn ymddangos am y tro cyntaf hefyd.

Llwyddodd Nigeria i drechu Sbaen yn eu gêm agoriadol, ac er i'r Sbaenwyr chwalu Bwlgaria 6-1 yn eu gêm olaf, llwyddodd Paragwai i drechu Nigeria a sicrhau bod y Sbaenwyr yn dychwelyd adref yn gynnar.

Ond yng ngêm fwyaf tanllyd y rowndiau agoriadol llwyddodd Iran i drechu America 2-1 diolch i goliau Hamid Estili a Mehdi Mahdavikia.

Yn yr ail rownd, llwyddodd Laurent Blanc i rwydo yr unig gôl aur yn hanes y bencampwriaeth wrth i'r tîm cartref drechu Paragwai a llwyddodd Yr Ariannin i drechu 10-dyn Lloegr ar giciau o'r smotyn wedi gêm danllyd yn St Etienne.

Synnwyd y byd pêl-droed wrth i Croatia drechu'r Almaen 3-0 yn rownd yr wyth olaf a rhoddodd dîm Miroslav Blazevic fraw i Ffrainc yn y rownd gynderfynol hefyd.

Llwyddodd Davor Šuker i roi Croatia ar y blaen ond rhwydodd Lilian Thuram ddwy gôl i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.

Brasil oedd gwrthwynebwyr y Ffrancwyr wedi iddynt drechu'r Iseldiroedd ar giciau o'r smotyn.

Ond roedd dryswch mawr cyn y rownd derfynol ym Mharis wedi newyddion syfrdanol fod seren Brasil, Ronaldo, wedi ei adael allan o'r tîm.

Ond wrth i'r wasg ddarlledu'r newyddion i bedwar ban byd, cafwyd cywiriad i'r rhestr timau a'r tro hyn, roedd y gŵr o Frasil wedi ei gynnwys wedi'r cwbwl.

Roedd y gêm ei hun yn gwbl ddi-fflach wedi'r holl gyffro cyn y chwiban gyntaf, a llwyddodd Zinedine Zidane i rwydo ddwywaith cyn i Emmanuel Petit ychwanegu trydedd gôl i sicrhau buddugoliaeth cartref.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy