BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 18 Mai 2006
2002: De Corea a Siapan
Cwpan y Byd 2002 oedd y cyntaf i gael ei rannu rhwng dwy wlad a'r cyntaf hefyd i'w gynnal ar gyfandir Asia.

Lleoliad De Corea De Corea
Siapan Siapan
Timau 32
Pencampwyr Brasil Brasil
Prif Sgorwyr Ronaldo Brasil
8 gôl

Roedd hefyd yn bencampwriaeth llawn syrpreis wrth i Twrci a De Corea synnu pawb a chyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Yn annisgwyl, ni lwyddodd rhai o'r ffefrynnau: Yr Ariannin, Portiwgal a'r deiliaid Ffrainc sicrhau eu lle yn yr ail rownd.

Gyda Zinedine Zidane yn dioddef o anaf, ni lwyddodd Ffrainc i sgorio gôl wrth orffen ar waelod Grwp A.

Llwyddodd De Corea, dan arweiniad Gus Hiddink, i gyrraedd y rownd gyn derfynol - y tîm cyntaf o Asia i wneud hynny - gan guro'r Eidal a Sbaen.

Ar ôl ennill eu grŵp, aeth Siapan ymlaen i'r ail rownd cyn colli yn erbyn Twrci - tîm gyrhaeddodd y rownd gynderfynol.

Uchafbwynt cystadleuaeth Lloegr oedd y fuddugoliaeth yn erbyn yr Ariannin, cyn i goliau Rivaldo a Ronaldinho dros Frasil eu trechu yn rownd yr wyth olaf.

Colli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Sbaen yr ail rownd oedd hanes Iwerddon, oedd wedi gorfod gwneud heb eu capten Roy Keane, adawodd y garfan wedi ffrae ar drothwy'r gystadleuaeth.

Ymddangosodd pedair gwlad am y tro cyntaf yng Nghwpan y Byd - China, Ecuador, Slovenia a Senegal, drechodd y deiliad Ffrainc yn y gêm agoriadol gyda Papa Bouba Diop yn sgorio unig gôl y gêm.

Brasil a'r Almaen, gwledydd mwyaf llwyddiannus y gystadleuaeth dyma'n cwrdd yn y rownd derfynol yn Yokohama - y tro cyntaf i'r ddwy wlad gwrdd yng Nghwpan y Byd.

Wedi ei hunllef ym Mharis bedair blynedd ynghynt, Ronaldo oedd arwr y rownd derfynol gan sgorio ddwywaith mewn buddugoliaeth o 2-0.

Gorffennodd y gystadleuaeth yn brif sgoriwr gydag wyth gôl, gan gipio'r Esgid Aur.

Golwr Yr Almaen, Oliver Kahn, enillodd y Bêl Aur fel chwaraewr gorau'r gystadleuaeth.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy