Camodd ymosodwr Real Madrid dros y bêl yn gelfydd i guro amddiffynnwr a'r golwr i rwydo wedi pedwar munud ac ychwanegodd Adriano ail gôl yn eiliadau olaf yr hanner wedi cyfnod hir o bwyso gan Ghana.
Ac i rwbio halen yn y briw i'r sêr du, roedd yn edrych fel bo ymosodwr Inter Milan yn camsefyll wrth iddo droi croesiad Cafu i'r rhwyd â'i glun.
Roedd Dida yn gawr rhwng y pyst i Frasil yn yr ail hanner wrth arbed lu o ergydion Ghana, ond wrth i'r Affricanwyr bwyso am gôl llwyddodd Ze Roberto i gasglu pas Ricardinho a chodi'r bêl dros y golwr, Richard Kingson, ac i'r rhwyd i selio'r fuddugoliaeth.
Erbyn hynny roedd Ghana i lawr i 10 dyn yn dilyn ail gerdyn melyn Gyan wedi 81 munud am iddo gwympo i'r llawr yn ddramatig o dan bwysau gan Juan.
TIMAU
Brasil: Dida, Cafu, Lucio, Juan, Carlos, Emerson, Ze Roberto, Kaka, Ronaldinho, Adriano, Ronaldo.
Eilyddion: Cicinho, Cris, Fred, Gilberto, Julio Cesar, Juninho, Luisao, Mineiro, Ricardinho,
Rogerio, Silva.
Ghana: Kingson, Pantsil, Shilla, Mensah, Pappoe, Draman, Eric Addo, Appiah, Muntari, Amoah, Gyan.
Eilyddion: Otto Addo, Adjei, Ahmed, Boateng, Kuffour, Mohamed, Owu, Pimpong, Quaye, Sarpei, Tachie-Mensah.
Dyfarnwr: Lubos Michel (Slofacia)
NEWYDDION
Bydd Robinho, ddechreuodd y gêm â Siapan ddydd Iau, yn colli'r gêm â Ghana oherwydd anaf i'w glun.
Dioddefodd yr ymosodwr yr anaf wedi cymryd ergyd ar gôl ar ddiwedd sesiwn ymarfer ac mae'n mai Adriano fydd yn dychwelyd i'r tîm i gymryd ei le.
Mae chwaraewr dylanwadol Ghana, Michael Essien, wedi ei wahardd ar gyfer y gêm tra bo Razak Pimpong yn gobeithio bod yn holliach wedi dioddef anaf i'w asen yn erbyn America.
TRIFIA
Mae Brasil a Ghana wedi cwrdd unwaith o'r blaen. Ym 1996 chwalodd Brasil y tîm o Affrica 8-2 mewn gêm gyfeillgar.
Dida yw'r unig chwaraewr yng ngharfan Brasil oedd yn rhan o'r tîm y diwrnod hwnnw tra bo dau aelod o garfan Ghana yn Yr Almaen, y golwr, Richard Kingston, a'r amddiffynnwr, Samuel Kuffour, wedi chwarae yn Sao Jose de Preto.
Dim ond un o wyth gôl Brasil ildiodd Kingston cyn iddo gael ei eilyddio, tra bo Kuffour wedi ei hel o'r maes wedi 51 munud..