 | Newidiwyd diwethaf: 17
Mai
2006
|
 |  |  | |  |  | Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Ghana ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp E:v Yr Eidal 12 Mehefin 2000 BST, Hanover
v Y Weriniaeth Siec 17 Mehefin 1700 BST, Cologne
v UDA 22 Mehefin 1500 BST, Nuremburg
Ghana oedd y tîm cyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth Gwledydd Affrica pedair gwaith pan gipiwyd y tlws yn ôl ym 1982, felly roedd yn anomaledd nad oeddent erioed wedi cyrraedd Cwpan y Byd.
Ond wrth orffen ar frig grŵp oedd yn cynnwys DR Congo a De Affrica, llwyddodd y Black Stars i wneud yn iawn am hyn a sicrhau eu lle yn Yr Almaen.
Daeth eu llwyddiant wedi'r gŵr o Serbia, Ratomir Dujkovic, gymryd yr awenau - yn rhyfedd ddigon, Dujokovic oedd yn gyfrifiol am eiliad mwyaf cywilyddus Ghana wrth iddo arwain Rwanda i Bencampwriaeth Gwledydd Affrica yn 2004 ar draul y Black Stars.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Ghana ar prif lwyfan pêl-droed y byd.
Sêr y tîm: Michael Essien, chwaraewr drytaf Affrica yw prif seren Ghana ac roedd yn rhan allweddol o dîm Ghana sicrhaodd eu lle yn Yr Almaen.
Ac roedd ei ddylanwad yn amlwg wrth i Ghana, heb chwaraewr canol cae Chelsea, fethu â chamu heibio rownd gyntaf Pencampwriaeth Gwledydd Affrica yn Yr Aifft eleni.
Barn BBC Cymru'r Byd: O ystyried eu grŵp, byddai'n lwyddiant ysgubol i Ghana gyrraedd yr ail rownd.
 |  |  |  |
| |