BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Criced

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 23 Mawrth 2011

Morgannwg yn gorffen ar nodyn uchel yn Ne Affrica

Daeth taith Morgannwg i Dde Affrica i ben gyda buddugoliaeth gyfforddus o 61 rhediad yn erbyn North West Invitational XI yn Potchefstroom.

Sgoriodd Nick James 93 heb fod allan, gyda Will Bragg yn cyfrannu 53, wrth i Forgannwg gyrraedd cyfanswm o 210 am 5 o'u 40 pelawd.

Llwyddodd bowlwyr yr ymwelwyr i gymryd tair wiced gynnar ym matiad y tîm cartref, a disgynnodd y wiced olaf ar 149 wedi 36 pelawd.

Roedd hi'n berfformiad dipyn gwell gan Forgannwg ar ôl colli o 32 rhediad i dîm rhanbarthol North West ddydd Llun.

Cyn y gêm yna, cafwyd buddugoliaeth o chwe wiced yn erbyn Uganda yn y gêm agoriadol.

Ni chwaraeodd y capten newydd Alviro Petersen yn y gemau yma gan ei fod yn parhau o dan gytundeb gyda'i ranbarth yn Ne Affrica, Highveld Lions.

Bydd y chwaraewyr yn dychwelyd i Gymru i barhau gyda'r paratoadau ar gyfer y tymor newydd.

Prifysgol Caerdydd fydd y gwrthwynebwyr cyntaf mewn gêm gyfeillgar ar 2 Ebrill, cyn i'r tymor gychwyn o ddifri yn erbyn Swydd Gaerlŷr ar 8 Ebrill ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy