Cafodd Russell ei ailbenodi i'r rôl nos Fercher yn dilyn cyfarfod o bwyllgor y clwb, gyda Roberts yn parhau yn is-gadeirydd. Roberts yw prif noddwr Morgannwg, ond fe ymddiswyddodd o'r pwyllgor ym mis Rhagfyr yn dilyn ymadawiad yr hyfforddwr Matthew Maynard a'r capten Jamie Dalrymple. Dywedodd Roberts ar y pryd hynny yr oedd yn anhapus na gafodd wybod am y newidiadau diweddar o fewn y clwb. Ond newidiodd ei feddwl o fewn deuddydd ac fe gytunodd i ailafael yn y swydd. Dywedodd Russell: "Rydw i wrth fy modd bod Roberts wedi cytuno i fod y cadeirydd nesaf. "Mae o'n ŵr busnes abl a llwyddiannus ac yn gefnogwr brwd o'r clwb ers nifer o flynyddoedd." Ategodd Roberts: "Mae sawl her o'm blaenau ni dros y misoedd nesaf. Rydw i'n edrych ymlaen at gydweithio gyda Paul er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus."
 |