Ymunodd Walters gyda swydd Surrey yn 2006, gan aros efo'r sir tan 2010. Fo oed eu capten yn 2009. Roedd cyfarwyddwr criced Morgannwg, Colin Metson, yn falch o groesawu Walters i'r garfan: " Mae'n chwaraewr talentog, sydd â digon o brofiad. Bydd yn gymorth i'n batio ni yn y gemau undydd a'r gemau Pencampwriaeth." "Rwyf yn gwerthfawrogi'r cyfle i chwarae gemau sir efo Morgannwg, ac yn edrych ymlaen at weithio efo'r capten newydd, Alviro Petersen, a'r hyfforddwr, Matthew Mott," meddai Walters, sy'n 27 oed. " Rwyf wedi mwynhau'r troeon i mi chwarae yng Nghymru," ychwanegodd Walters," ac yn credu gall y garfan ennill tlysau yn y dyfodol agos."
 |