BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Criced

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 19 Chwefror 2011

Seland Newydd yn opsiwn i Maynard

Mae cyn gyfarwyddwr criced Morgannwg, Matthew Maynard yn cyfaddef y gall symud i Seland Newydd ar gyfer ei swydd nesaf.

Matthew Maynard

Ers gadael y Sir Gymreig fis Tachwedd y llynedd y mae Maynard wedi bod yn ystyried ei opsiynau gyda Seland Newydd yn bosibilrwydd

"Mae 'na cwpwl o daleithiau yn Seland Newydd yn chwilio am hyfforddwyr", meddai Maynard.

"Tydyn nhw ddim wedi cynnig unrhyw beth hyd yn hyn ond 'dwi wedi gyrru fy CV i'r prif weithredwyr, ac fe all rhywbeth ddatblygu o hynny.

"'Dwi wrth fy modd gyda Seland Newydd fel gwlad. Mae'n le prydferth," ychwanegodd Maynard, dreuliodd cyfnod â Otago fel chwaraewr yn y nawdegau.

"Mae'r criced yn debyg iawn i bencampwriaeth y siroedd yn nhermau'r wicedi a sut y mae'r chwaraewyr yn chwarae.

"Ond mae 'na fwy o amser paratoi, ac i hyfforddwr mae hynny'n wych.

"Mae 'na nifer o swyddi da o fewn y gêm ond yn amlwg mae'n rhaid dewis yr un cywir i fi a fy nheulu."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy