Joe i brofi llwyddiant yn America fel Obama?

Gan John Ifans yn Efrog Newydd
Cefais brofiad anghyffredin, unigryw bron, yn Efrog Newydd yn gynharach yr wythnos hon. Nid wyf am eiliad yn awgrymu taw mi yw'r Cymro cyntaf i brofi'r anghyfarwydd ym Manhattan ond, wrth gydnabod hynny, gallaf fynnu'r hawlfraint o fod y gohebydd cyntaf i rannu pryd o fwyd sylweddol gyda Joe Calzaghe, deuddydd cyn iddo ymladd yn y sgwâr!
Mae honiad mor haerllug yn haeddu esboniad, mi wn, ac mae'r rheswm am y cyfarfod dros swper yn syml; oherwydd ers iddo gamu i'r sgwâr proffesiynol am y tro cyntaf ar y cyntaf o Hydref 1993 bu Joe'n brwydro i ddisgyn i bwysau gofynnol y dosbarth uwch ganol, sef deuddeg stôn.
Yn naturiol, cama o gwmpas oddeutu 14 stôn, a rhwng 1993 a 2008 llwyddodd i golli'r pwysau ychwanegol cyn pob gornest trwy gyfuno llafur corfforol ac ymatal rhag bwyta.
Nid gorchwyl hawdd mohono chwaith a phan benderfynodd godi i ddosbarth yr is-drwm, sef deuddeg stôn a hanner, profodd dôn o ryddhad.
A dyna'r rheswm pam y gallai ymlacio a suddo pryd o fwyd cymharol sylweddol yr wythnos hon!
Mae'n wir iddo godi i'r pwysau uwch cyn ei ornest yn erbyn Bernard Hopkins yn Las Vegas fis Mawrth, ond mae'n mynnu nad oedd ar ei orau'r noson honno gan nad oedd yn gyfan gwbl gyfarwydd â'i amgylchiadau corfforol newydd.
"Doedd fy mherfformiad yn erbyn Hopkins ddim yn fy modloni'n llwyr," meddai, "yn enwedig gan i Hopkins fabwysiadu agwedd a thactegau mor negyddol."
Gwn mai peryglus yw temtio ffawd ond mae'n rhaid imi ddatgan y farn na welais Joe erioed mor gyffyrddus yn ei ymwareddiad cyn gornest mor bwysig.

Ymgymerodd â dyletswyddau hyrwyddo am y tro cyntaf ac mae'n rhaid cydnabod iddo greu argraff ffafriol eithriadol o gael ei draed masnachol yn rhydd.
Ar ôl dweud hynny mae'n deg nodi fod gwrth gyferbyniad sylweddol rhwng marchnata'r ornest yn Las Vegas a'r hyn a brofwyd yn Efrog Newydd hyd yn hyn, yn ystod yr wythnos y profodd y Bonwr Obama ei fuddugoliaeth fythgofiadwy.
Ym mis Ebrill ni fedrwyd symud llathen heb weld poster neu berson yn hyrwyddo'r ymafael rhwng Joe a Hopkins.
Yma, muriau allanol adeilad y Madison Square Garden yn unig sy'n hysbysebu'r ornest rhwng y Cymro a Roy Jones Jr.
Eto denwyd prif ohebyddion y gamp ledled y byd i'r 'Afal Mawr' gyda phob un yn awchu i gynnig sylwadau ar yr ornest rhwng dau o'r cystadleuwyr mwyaf llwyddiannus a brofodd bocsio erioed.
Onid oedd Roy Jones Jr yn ei anterth yn ystod ei gyfnod yn bencampwr mewn pedwar pwysau gwahanol ac iddo gyrraedd y brig wrth guro John Ruiz am bencampwriaeth trwm WBA y byd ym mis Mawrth 2003?
Ers hynny, collodd dair gornest yn olynol cyn adfer ei hunan-barch mewn ffyrdd digon sigledig mewn tair gornest arall.
Gwelsom Joe yn bwerus a dewr yn erbyn Byron Mitchell yn 2003, yn athrylithgar o feistrolgar wrth dawelu'r cegog Jeff Lacy yn 2006 ac yna'n ateb pob gofyn wrth teyrnasu yn erbyn Mikkel Kessler flwyddyn yn ôl.
Teg dweud nad oedd Calzaghe ar ei orau yn erbyn Hopkins ac mae'n mynnu y bydd ei berfformiad yn fwy safonol yn erbyn Jones Jr.
Eto, o gofio'r goten roddodd Hopkins i Kelly Pavlik ychydig wythnosau yn ôl, a ddyle ni ail ystyried cyfraniad Joe yn erbyn Hopkins?
Mae'r gŵr o Fflorida yntau'n ffyddiog ynglŷn â'i adferiad ac yntau o fewn deufis i'w ben-blwydd yn ddeugain.
Ai'r Cymro unllygeidiog ynof sy'n argyhoeddedig taw'r Cymro 36 mlwydd oed fydd yn fuddugol unwaith yn rhagor? Amser a ddengys.