BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bocsio

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 01 Mawrth 2011

Dyddiad newydd i Cleverly frwydro am goron byd

Mae gornest Nathan Cleverly am goron is-drwm WBO y byd wedi cael ei wthio'n ôl saith wythnos tan 21 Mai.

Nathan Cleverly

Y dyddiad gwreiddiol ar gyfer y frwydr yn erbyn y pencampwr Juergen Braehmer oedd 2 Ebrill.

Bydd yr ornest yn cael ei chynnal yn O2 Arena yn Llundain.

Mae Cleverly wedi bod yn paratoi i ymladd ers canol mis Ionawr ar ôl i Braehmer, sy'n 32 mlwydd oed, gael gorchymyn gan y WBO i drefnu'r ornest.

Tynnodd Braehmer allan o ornest yn erbyn y pencampwr WBA Beibut Shumenov ar 8 Ionawr oherwydd salwch.

Nid yw'r Almaenwr wedi ymladd ers mis Mawrth y llynedd, ac mae ei ddyfodol yn y sgwâr wedi bod mewn amheuaeth ar ôl iddo gael ei ddedfrydu i 16 mis o garchar am ymosodiad treisgar.

Mae Braehmer yn apelio yn erbyn y penderfyniad yna, ac wedi cael caniatâd i barhau i ymladd wrth ddisgwyl am y broses gyfreithiol i gymryd ei chwrs.

Roedd Cleverly yn gobeithio cael ymladd enillydd yr ornest rhwng Braehmer a Shumenov yn hwyrach yn y flwyddyn, ond mae ei gyfle i wireddu ei freuddwyd o ennill coron byd wedi cyrraedd yn gynt na'r disgwyl.

Mae'r gŵr o Gefn Fforest wedi ennill pob un o'i 21 gornest ac yn gyn-bencampwr Ewrop, y Gymanwlad a Phrydain.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy