BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bocsio

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 18 Ionawr 2011

Cleverly yn paratoi i wynebu Braehmer

Mae Nathan Cleverly wedi cychwyn ei baratoadau er mwyn herio pencampwr is-drwm WBO y byd, gan obeithio cael camu i mewn i'r sgwâr i herio Juergen Braehmer ym mis Mawrth.

Nathan Cleverly

Mae Braehmer, 32, wedi cael gorchymyn gan y WBO i ymladd Cleverly nesaf, neu bydd ei goron yn cael ei chymryd oddi arno ac yn mynd i ddwylo'r Cymro.

Dywedodd Cleverly bod trafodaethau eisoes wedi cychwyn er mwyn ceisio cytuno ar ddyddiad, ac mae'n bosib y bydd y ddau yn cwrdd o fewn y ddeufis nesaf.

"'Dw i'n edrych ymlaen yn eiddgar ac mae'n rhaid i mi fod yn barod yn gorfforol ac yn feddyliol," meddai Cleverly, sy'n 23 mlwydd oed.

"Mae'r paratoadau wedi cychwyn - yr unig beth nawr yw aros er mwyn cael cadarnhad bod yr ornest yn sicr yn mynd yn ei flaen."

Tynnodd Braehmer allan o ornest yn erbyn y pencampwr WBA Beibut Shumenov ar 8 Ionawr oherwydd salwch.

Nid yw'r Almaenwr wedi ymladd ers mis Mawrth y llynedd, ac mae ei ddyfodol yn y sgwâr wedi bod mewn amheuaeth ar ôl iddo gael ei ddedfrydu i 16 mis o garchar am ymosodiad treisgar.

Mae Braehmer yn apelio yn erbyn y penderfyniad yna, ac wedi cael caniatâd i barhau i ymladd wrth ddisgwyl am y broses gyfreithiol i gymryd ei chwrs.

Roedd Cleverly yn gobeithio cael ymladd enillydd yr ornest rhwng Braehmer a Shumenov yn hwyrach yn y flwyddyn, ond mae ei gyfle i wireddu ei freuddwyd o ennill coron byd wedi cyrraedd yn gynt na'r disgwyl.

"Mi fyddai cael ymladd yn Stadiwm y Mileniwm am goron byd yn wych," meddai Cleverly, sydd wedi ennill pob un o'i 21 gornest fel bocsiwr proffesiynol.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy