| Bu'n rhaid i'r Cymro ildio ei goron gan y bydd yn cael llawdriniaeth i'w drwyn. Fe fydd John Watson yn awr yn wynebu ei gyd-Sais Crolla yn Olympia yn Lerpwl. Gobaith Rees fydd wynebu enillydd yr ornest neu ornest yn erbyn pencampwr Ewrop, John Murray pan fydd yn dychwelyd i'r sgwâr ym mis bril. Bydd Cymro arall, Bradley Pryce hefyd yn ymladd ar yr un nos a gornest Watson v Crolla.
 |