Coron WBO pwysau is-drwm y byd Juergen Braehmer sydd ar feddwl Cleverly. Mae amheuaeth ynglŷn â gyrfa'r Almaenwr ar hyn o bryd wrth iddo apelio yn erbyn dedfryd 16 mis o garchar.
Ond mae Braehmer wedi cael caniatâd i barhau i focsio am y tro, ac mi fydd y pencampwr yn amddiffyn ei goron yn erbyn pencampwr WBA a IBA Beibut Shumenov yn Kazakstan ar 8 Ionawr.
Pe bai Braehmer wedi ei yrru i'r carchar fis diwethaf, yna byddai Cleverly wedi ei goroni'n bencampwr WBO ar ôl ei fuddugoliaeth yn erbyn Nadjib Mohammedi.
Bellach, mae'r gŵr o Gefn Fforest yn gobeithio wynebu enillydd yr ornest rhwng Braehmer a Shumenov yn haf 2011.
"Mi fyddai'n falch i gael ymladd am y goron yn y sgwâr yn hytrach na'i hennill hi am reswm arall," meddai Cleverly, sy'n 23 mlwydd oed.
"Mae'n bosib y bydd yr apêl yn cymryd tair blynedd, felly mae Braehmer yn ymladd ar 8 Ionawr er mwyn ceisio uno'r teitlau, ac mae'n debyg y caf i wynebu'r ennill yn yr haf.
"Mi fyddi'n braf cael gafael ar bencampwr byd a'i gyrru i gipio'r goron - mi fyddai hynny'n berffaith."
Er bod Cleverly ymysg y prif ddetholion ar restr WBO, mae sawl bocsiwr llawer mwy profiadol ac enwog o'i flaen ar sawl rhestr arall.
Y pencampwr IBO a WBC Jean Pascal sy'n cael ei gyfri fel bocsiwr gorau yn yr adran is-drwm, ac fe gafodd ornest gyfartal yn erbyn Bernard Hopkins ddydd Sadwrn diwethaf.
Mae enwau mawr megis Glen Johnson, Chad Dawson a Tavoris Cloud hefyd yn disgwyl am eu cyfle i ymladd am goron byd.
Er ennill am y unfed tro ar hugain yn olynol wrth drechu Mohammedi ar bwyntiau yn gynharach ym mis Rhagfyr, cyfaddefodd Cleverly ei fod wedi cael cryn drafferth gyda'r Ffrancwr.
Ond ategodd y Cymro bod hwnnw wedi bod yn wers werthfawr iddo, ac wedi gwneud iddo sylweddoli bod digon o waith caled o'i flaen.
"Fe ddangosodd o bosib mod i ddim yn barod ar gyfer y prif focsiwr yn yr adran," meddai Cleverly.
"Mae sawl blwyddyn o'm mlaen i eto. 'Dw i'n ifanc ac yn parhau i wella felly mi ai yn ôl i edrych yn fanwl ar bopeth eto."