BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bocsio

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 10 Tachwedd 2008
Joe yn cyfrannu i hanes y cyfnod
Joe Calzaghe - ystyried ei ddyfodol

Gohebydd bocsio BBC Radio Cymru John Ifans - gwr sydd wedi dilyn gyrfa Joe Calzaghe ers ei ddyddiau amatur - sy'n tafoli'r dewisiadau sy'n wynebu'r bocsiwr ar ôl ei fuddugoliaeth drawiadol yn erbyn Roy Jones Jr


Yn gyfan gwbl haeddiannol buddugoliaeth syfrdanol, fyth gofiadwy Barrack Obama a hawliodd y penawdau bras yn Efrog Newydd ac yn yr Unol Daleithiau'n yn ystod yr wythnos a aeth heibio.

Yn oriau man fore Sul ychwanegodd buddugoliaeth y bocsiwr o Drecelyn, Joe Calzaghe, ei gyfraniad personol e at gofnod hanesyddol y cyfnod oherwydd ym Madison Square Garden naddodd y Cymro le parhaol yng nghrombil y gamp o focsio.

O flaen torf o dros 14,000 sefydlodd y gŵr, 36 mlwydd oed, ei le ar lechen yr anfarwolion. Dengys yr ystadegau moel i Joe guro'r anfarwol Roy Jones ar bwyntiau dros 12 rownd. Ffaith sy'n ychwanegu carreg filltir arall at ei record ryfeddol o lwyddiannau ers iddo gamu i'r sgwâr proffesiynol am y tro cynaf ym mis Hydref 1993.

Ers yr ymddangosiad cyntaf hwnnw concrodd y Cymro bob gwrthwynebydd a osodwyd o'i flaen. Yn y talwrn ym Madison estynnodd ei record dilychwyn i 46 yn olynol.

Ond yn ddi-os y mae'r ffeithiau moel yn celu llawer am y ddrama a'i ymdrech arwrol wrth guro'r gŵr a greodd ei nod byth gofiadwy ei hun yn gynharach. Rhwng 1993 a 2004 Jones fu'r cyntaf ers Bob Fitzsimmons ym 1897 i deyrnasu mewn pedair pwysau gwahanol - y canol (11 stôn 6 pwys), yr uwch ganol (12 stôn) y is-drwm (12 stôn a hanner) a'r pwysau trwm.

Y gwir plaen amdani yw nad oedd rhaid i Calzaghe wynebu Jones yn y sgwâr ond ers i'r Cymro ennill ei goron uwch ganol (WBO) y byd yn erbyn Chris Eubank yn Hydref 1997, llwyddodd i amddiffyn coronau'r pwysau ar un tro ar hugain ac uno'r cyfan drwy ychwanegu teitlau'r WBA, y WBC a'r IBF.

Serch hynny teimlodd na fu ei lwyddiannau yn y sgwâr yn derbyn y gydnabyddiaeth deilwng a phenderfynodd fentro'r cyfan ar godi pwysau a herio'r goreuon mewn dosbarthiadau uwch.

Yn hytrach nag aros gartref a mwynhau ei olud a'i gyfoeth chwiliodd am orchwylion mwy heriol. Penderfynodd wynebu un o gewri'r gamp, Bernard Hopkins, yn Las Vegas. Yno daeth profiad poenus i'w ran gafodd ei lorio yn y rownd gyntaf, ond cododd o'r cynfas (fel y gwnaeth ar ôl derbyn yr un ffawd yn erbyn Byron Mitchell a Kabary Saleem, yn gynharach yn ei yrfa.) ac aeth yn ei flaen i hawlio buddugoliaeth ar bwyntiau.

Cael ei lorio yn y rownd gyntaf yn erbyn Jones y tro hwn ond cynyddodd ei benderfyniad a chwyddodd ei galon. O reidrwydd enillodd Jones y rownd agoriadol o ddeg pwynt i wyth ond ym marn y tri beirniad swyddogol ei oruchafiaeth yn y rownd gyntaf oedd ei unig lwyddiant. Cododd a newidiodd Calzaghe ger ac o hynny ymlaen efe a deyrnasodd.

Yn gyson gadawodd i'w freichiau ddisgyn yn is na'i ganol. Credai'r mwyafrif ohonom fod honno'n dacteg annerbyniol o fentrus ond ni lwyddodd ei wrthwynebydd i ddryllio'r amddiffyn yr un modd effeithiol eto.

Aeth Calzaghe yn ei flaen o nerth i nerth. Glaniodd ei ddwrn chwith a gleisiodd lygad chwith Jones, ac yna torrodd ddwrn de'r Cymro gwt anferth rhwng llygad chwith ac ael yr Americanwr. O hynny ymlaen gwyddai Calzaghe y byddai'n gwireddu ei ddymuniad.

O'r seithfed rownd ymlaen bu Joe'n dra arglwyddiaethu a seliodd buddugoliaeth gwbl ddigamsyniol.

Beth nesaf iddo? Gwrthododd ymhelaethu yn ystod ei araith 'r ôl yr ornest ond ar ôl treulio oriau lawer yn ei gwmni yn ystod y 15 mlynedd diwethaf gwn fod dwy elfen yn bwysicach iddo nag unrhyw ystyriaeth arall. Sef - ei ddyhead i encilio a rhoi'r gorau i'r gamp gan barhau a'i record ddilychwyn. Yn ail yr ysfa fu ynddo ers y dechrau i glosio, ac o bosib, guro record fyd ei arwr Rocky Marciano o bedwar a naw o ornestau heb golli.

Gyda Joe nawr a chyfanswm o 46 rhagwelaf o leiaf un ymddangosiad ganddo yn Stadiwm y Mileniwm i'w gwneud yn 47. A fydd e'r pryd hynny yn rhoi'r gorau ac ymddeol? Pwy a ŵyr? Amser a ddengys ond beth bynnag ddigwyddith diolch iti Joe a llongyfarchiadau calonnocaf.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy