BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bocsio

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 09 Tachwedd 2008
Ymateb i fuddugoliaeth Calzaghe

Roedd Joe Calzaghe yn feistr corn ar Roy Jones Jr yn Efrog Newydd

Enzo Calzaghe, tad ac hyfforddwr Joe

"Mae ei fam yn erfyn arno i ymddeol gan fod dim byd arall i'w gyflawni. Beth bynnag mae Joe eisiau ei wneud, mi wna i ei gefnogi. Ond unwaith mae o'n penderfynu ymddeol, does dim dod yn ôl o hynny.

Mae ymddeol yn golygu ymddeol. Dwi'n gobeithio bydd y cynigion yn dod rŵan felly does dim angen iddo ymddeol. Does dim pwynt i'r cynigion ddod ar ôl iddo benderfynu ymddeol."

Enzo Maccarinelli, cyfaill a chyn bencampwr byd

"Roedd hwnna'n berfformiad gwych gan Joe - mae'n rhaid iddo fod ymysg y tri pherfformiad gorau o'i yrfa. Does neb wedi rhoi crasfa fel yna i Jones, roedd hi'n ornest mor unochrog.

Fe gafodd ei ddal yn y rownd gyntaf ac mi gafodd ei ddeffro gan yr ergyd yna. Ar ôl hynny, fe wnaeth o focsio'n wych. Dwi'n gwybod beth mae o am wneud nesaf ond dwi ddim yn cael dweud."

Frank Warren, cyn hyrwyddwr Joe

"Cyn yr ornest, roedd Joe yn dweud mai hon fydd yr un olaf ond rŵan dydi o ddim mor siŵr. Dwi'n credu neith o gario ymlaen. Mi faswn i'n hoffi ei weld yn ymddeol, does ganddo ddim byd arall i'w brofi.

Heb os fo ydi'r bocsiwr pwysau uwch-ganol gorau sydd wedi bod erioed. I mi, fo ydi'r bocsiwr Prydeinig gorau ers y rhyfel. Mae ei record yn siarad dros ei hun."

Lennox Lewis, cyn bencampwr byd

"Mae o wedi curo pawn sydd yna i'w curo a does ganddo ddim byd mwy i'w brofi, felly dwi'n meddwl mai ymddeol yw'r peth callaf. Mae o'n un o'r bocsiwr Prydeinig gorau erioed, does dim amheuaeth am hynny."

David Haye, pencampwr byd

"Anaml iawn mae bocsiwr yn ymddeol ar y brig. Dwi'n meddwl bod Lennox Lewis wedi dangos bod posib rhoi'r gorau iddi a'i pheidio dod yn ôl. Mae o'n dibynnu faint o arian sydd ganddo.

Os bod ganddo ddigon o arian i sicrhau'r math o fywyd mae o eisiau, yna mi wneith o ymddeol. Os ddim, yna'r unig reswm y bydd o'n ymladd ydi er mwyn arian, a dyna beth mae nifer o focsiwr yn ei wneud ar ddiwedd eu gyrfa. Dwi'n gobeithio bod ganddo ddigon o arian i allu mwynhau bywyd cyfforddus gyda'i deulu."

Mikkel Kessler, pencampwr byd

"Dyma'r canlyniad nes i broffwydo cyn yr ornest. Mae cael cyfle i ymladd Joe eto ar frig fy rhestr, dyna ydi fy mreuddwyd i. Joe ydi'r unig berson i guro fi ond dwi'n siŵr mai fi fydd yn fuddugol os nawn ni ymladd eto. Mi faswn i wrth fy modd yn cael cyfle i ymladd yng Nghaerdydd eto."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy